Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr Iwerddon a Lloegr hefyd. Yn ol llyfr achau Mac Firbis (O'Curry MSS. td. 217), Bacorbladhra oedd athro cynta'r Iwerddon, ac efe oedd Ollav (pencerdd) yr hen frenin Partholon. Yn ol Brut Layamon, gallai Bledgabreat ganu pob offeryn cerdd, a gwyddai ganu pob gwlad o'r bron (Grossmann, td. 55), Blegywryd enwocaf Cymru, fel y dywedwyd, oedd Blegywryd Gerallt ond Blegywryd dilyssaf Cymru yw'r gwr fu dan Hywel Dda yn trefnu cyfreithiau Hywel Dda yn yr Hendygwyn-Ar-Daf. Tybid gynt mai archddiagon oedd efe, ond dengys Dr J. E. Lloyd nad gwr mewn urdd Eglwys oedd (Hist. of Wales, 1, td. 341), a cheir yr un gwr yn dyddio rhwng Esgob Llandaf a brenin Gwent ynghylch torri nawdd Eglwys. Ond pwy oedd y gwr hwn oedd y fath awdurdod ar gyfraith a hanes? Mewn rhai o lawysgrifau cyfraith Hywel Dda ceir pennill Lladin o waith Blaugoridus, a'r pennill hwnnw wedi ei ganu i ddathlu gorffen trefnu'r cyfreithiau. Fel y ceir gweld wrth drin hanes y "Bardd Glas o'r Gadair" isod, y mae'n debyg iawn nad yw Blaugoridus yn y pennill onid enw swyddogol ar "Ceraint yr Yhad." Os yw hynny yn gywir, ceir goleu ar ddau beth pwysig iawn yn hanes Cymru: (1) gwelir mai enw swyddog yw Blegywryd ac y mae hynny yn dadrys llawer o bethau dirgel yn ein traddodiad—dyma'r prif awdurdod ar gyfraith a hanes a thraddodiadau Cymru gynt. (2) Ceir goleu hefyd ar "Ceraint Fardd Glas o'r Gadair," yr hwn yn ol tradodiad y De roddodd sail i gynghanedd a gramadeg yng Nghymru gynt, ac athro cyntaf cerdd dafod ein gwlad. Y mae yr athro T. Gwynn Jones yn Bardism, td. 97, yn trin Bleri fel gwr o ryw ysgol newydd ymlith y "gler" a'r gwehilion: nid oedd modd gwneud mwy o gam a'r hen dywysog hwn ymhilth gwyr diwylliedig y Cymro a'r hen Gelt oi flaen. Pan aethpwyd i gynhenna ynghylch pwy oedd i wisgo mantell y prif dderwydd yn yr Iwerddon, aeth prif swyddog y gyfraith a'r swydd iddo ei hun. Cadwodd Blegywryd Cymru yr hen swydd yn gyfan ac yr oedd cyfraith a chrefydd,

Mabinogi, gramadeg a chywydd i gyd yn perthyn i'w blwyf ef.