Y CYWRYD
Heblaw'r "brydydd" a'r "bregywryd," ceir hefyd y "cywryd." Y mae hwn yn llai amlwg, fel y gweddai iddo, na "blegywryd"; ond eto, y mae yn ddigon amlwg i weld ei fod yntau yn wr pwysig yng Nghymru gynt. Os troir i Llyfr Du Caer. td. 77, ceir hyn:
"Terruin am tir. Ri reith kywir. Ohil morgant. O morcannhvc
O rieinvc radev rvytheint. O teernon kywrid leon. Galon reibeint"
Darn o gan ydyw, a chan anodd ei deall, ond disgrifir Teernon fel "kywrid leon" ym Morgannwg. Efe oedd herald neu arweinydd y milwyr yn erbyn y gelynion oedd yn anrheithio'r wlad.
Yn achau Iolo Goch, ceir peth tarawiadol iawn am Gywryd. Yn Iolo (arg. Ashton, td. 9) ceir hyn: "Kendrick Dewis herod Esq. (Mab) Kowryd"; a'r sylw hyn wrth ei ystlys: "Ken: Ddewis Herod a great man in Denbigh land so called because he was chosen and selected for a complete gent. by the Heralts at the Lords command."
Yn Iolo Goch (arg. Williams, td. XIX), cyfeirir ni gan yr athro H. Lewis at Vinogradoff, Records of Denbigh, td. 58, lle y ceir: "Ithel Gogh...et David...tenent .vj. am partem gavelle Ken. Gewret, Dewys Herot et ior, duy." Gwelodd Lewis (td. xx1) mai enw oedd "Dewis Herod" ar "Ken. Gewret"; ond ni sylwodd mai enwau heb gyfenwau geir yn yr achau. Ceir enwau fel Iocyn Bach (td. XXI) ac enw felly yw "Ken. Gewret" h.y. Kendrick y "kywryd." Ystyr "kywryd" yma, mae'n amlwg, yw "herald dewisol" neu "pen luydd"; a dyry'r nodyn Saesneg yn Iolo Ashton uchod ystyr y cwbl. Yn Williams, Records of Denbigh, td. 99, cyferfydd dyn a'r un gwr dan yr enw "keneverd loyd." Cynyg Sais at ysgrifennu yr enw yw hwn ac ymddengys imi taw "cywryd luydd," h.y. chief of hosts ydyw. Yr herod