oedd y gwr oedd yn cynrychiolu y brenin, ac efe oedd yn dwyn neges y brenin i'r milwyr.
Yn RBP. 1, 1228. 11, ceir un o'r pethau goreu ar y wedd arall ar ystyr y gair:
"Mal cofein kywrain kywryt vard dunawt."
Dywed Syr J. Morris—Jones yn y Cymmrodor, 1923—4, td. 36: "Mai Dunawd yw'r ffurf Gymraeg...ar Donatus, ond na wyddai Cymry'r canol oesoedd ddim am hynny." Er hynny gwyddai Cymry'r Canol Oesoedd yn dda am dano fel Dunawd. Ceir cyfeiriad arall ato yn RBP. 1, 101, 42:
"Huawdyl greir...hyder dunawt."
Fel y cofir hen athro Jerome, cyfiethydd y Vulgate oedd Donatus. Efe oedd prif ramadegydd Cred, ac adnabyddid ef mewn oesoedd diweddar yng Nghymru fel Dwned. Cyfeiriad at Donatus sydd yma, ac efe yw "Kywryt Vard"— pen y beirdd yn yr hen ystyr. Ceir peth gwell hyd yn oed na hyn gan Aneirin yn Gododin, td. 27, 10. Yno sonnir am: "Kyvret kerd wyllyon," chief of the filid' (fel y ceir gweld islaw). Y mae'r cyfred hwn yn air hollol wahanol i "cyfred as swift as, a gwahanol hefyd i "cyffredin" (common approach) gymysgwyd ag ef yn W.G. td. 265. Wele "kywryd" fel chief herald, chief of hosts, fel chief grammarian, ac fel chief of the filid.
Gwelsom yr enw Bard fel enw teulu yn yr Iwerddon; Blegywryd fel enw priod yng Nghymru, a cheir Kywryd eto fel enw priod, neu enw bardd enwog. Y tri cyntaf yn "Englynion y Beddau" yw (Llyfr Du Caer. 63, 3):
"Kerwid a Chivrid a Chaw."
I rai cyfarwydd a thraddodiadau yr hen amser y mae'r llinell hon yn debycach o fod yn coffa tair gradd o feirdd, na thri bardd yn dwyn enwau fel hyn. Ceir Cywryd hefyd. fel enw ar un o brif feirdd yr hen gyfnod gwel Stephens, Lit. td. 9.