Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'r "brydydd" y "bregywryd" a'r "kywryd" yn perthyn felly i ddosbarth Brethemon y Gwyddyl. Gofal pennaf y dosbarth hwn oedd cyfraith y wlad. Yn ol hen awdurdod ddifynnir gan O'Curry yn ei MSS. Materials, td. 45, ceir hyn:

"From the time of Amergen...the Filé (h.y. chief of poets) and one of the chiefs of the Milesian colonists, delivered the first judgment in Erinn, it was to the Filés alone that belonged the right of pronouncing judgments, until the disputation of the Two Sages...about the mantle of the chief Filé... who had lately died."

Ychwanega Dr Joyce, Soc. Hist. 1, td. 171, hyn:

"Whereupon the privilege of judicature was taken from the poets and committed to the hands of the judges, and the legal profession instead of being confined to the poets, was thrown open to all who could qualify."

Bu hen drefn y Derwyddon ynghylch addysg fyw yn Gaul hyd y vi.fed ganrif. Nid yr ochr grefyddol ohoni yn gymaint a rhetoreg, ac yr oedd bri mawr ar hyn, a'r ysgolion mor enwog a dim ar y Cyfandir.

Nid oes dichon darllen fawr o hen lên y Gwyddyl heb daro ar dderwydd yn fynych, a gweld ei ol yn fynychach na hynny. Dywed Dr J. Macneill a Dr Hyde fod ysgolion cerdd dafod yr Iwerddon wedi eu seilio ar ddiwylliant y Derwyddon. Nid ffug lenyddol mo'r peth, fel y tybiodd T. Stephens a'i ddilynwyr yn wir yr wyf yn credu y gellir dangos mai ffug feirniadaeth welodd y "ffug lenyddol" dybiedig hon. Tra gofalai'r "brydydd" am y gyfraith, ceid ganddo "ddedfryd" a "brydest," ond wedi iddo golli ei swydd yn y llys, "brydest" yn unig geid. Heblaw'r "brydydd," "bregywryd" a'r "cywryd," sonnir hefyd am "argywryd" y beirdd, a cheir 'cynwryd" ond nid oes le i'w trin yma rhagor na sylwi mai gweddillion yr hen drefn ydynt pan oedd y gwyr hyn yn wyr blaenllaw yn y wlad, a gofal ei diwylliant arnynt hwy.