Sonnir isod am yr henog a'r mebinog a'u perthynas agos. Gellid meddwl fod bryd a meprit, mepurit yn perthyn yn debyg ond cafodd y meprit hwn fwy o gam na'r Mebinog hyd yn oed, a rhaid iddo gael pennod iddo ei hun rywbryd.
ALAW A GWYLL
Gwyr mawr hen ddiwylliant y Gwyddyl oedd y Filé' a'r Ollav—paham nad oes son am y gwyr hyn yng Nghymru os ydynt yn ddilys ag yn perthyn i hen drefn y Celt?
Dangoswyd yn y Cerddor Newydd, 1928, td. 39-40, fod yr Ollav yn byw yng Nghymru o hyd, ag yn arddel ei hen enw ei hun. Ym Morganwg pan enillo bardd neu gerddor wobr mewn eisteddfod bwysig, rhaid iddynt gael "ffug enw." Un o'r enwau mwyaf cyffredin fydd Alaw ag enw pentre neu wlad enedigol y gwr yn rhwym wrtho: Alaw Cynon, Alaw Hendy; neu fel hyn: Cynalaw, Gwynalaw, Pedr Alaw, Owain Alaw, Bardd Alaw, Alaw Ddu, etc. Yr eisteddfod sydd heddyw yn cynrychioli yr hen neithiorau, ffeiriau a'r gorseddau lle y cai'r beirdd a'r cerddorion eu graddau gynt. Cyfrifir bod enill gwobr mewn eisteddfod fawr yn gyfystyr ag enill gradd a'r ffugenw sydd yn cynrychioli y radd honno. Nid dewis yr enw Alaw drwy fympwy wneir dyna'r hen enw traddodiadol am y radd.
Yn ol Anwyl ystyr "alaw" yw "air (in music), melody, tune" ond yn Pughe ceir "bardd alaw" am doctor of music. Mae'n debyg mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrob lle y ceid canu ag amryw leisiau. Wedi i hynny ddechreu, yr oedd rhaid wrth enw penodol ar y vox principalis i'w wahaniaethu oddiwrth y vox organalis. Hawdd felly oedd i'r "alaw," h.y. y "prif gerddor" ddod i olygu y "prif ganu," h.y. y "prif lais" sef y soprano (y llais uchaf). Nid ystyr Alaw Ddu yw black song, fel y gellid tybio yn ol Anwyl, ond the black headed "Ollav." Hen ddiwylliant y Celt sydd yma yn chwalu yn ysgyrion, ond pob ysgyren yn cynrychioli rhyw wedd ar yr hen drefn pan oedd cerdd a chyfraith a chrefydd yng ngofal yr hen swyddogion. Nid oes neb yn