Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywysoc llên yn yr Iwerddon a chainc o'r Filé oedd yr Ollav.

Er mai y Filé oedd y pennaf ym myd diwylliant yn yr Iwerddon gynt, parodd yr enw drafferth fawr. Credai rhai nad oedd Filé ond ffurf ar y gair Cymraeg "gweled" wedi ei fenthyca. Dywed Stokes, Urk. Spr. td. 277, a Pedersen, I, td. 249, fod Filé a "gweled" yn perthyn i'w gilydd. Ychwanega Bezzenberger at farn Stokes uchod drwy gyfeirio at ryw ddewines o'r enw Veleda, a chysyllta'r enw a'r ystyr a'r Filé. Y mae'n wir fod "gweledydd" yn tybio "proffwyd" heddyw, ond ymddengys i mi mai cyfieithad o seer y Sais ydyw, yn hytrach na hen air Cymraeg am "broffwyd." Ceir, er hynny, ryw gwilwr, gwiliad, gwylyat, gwilliad, gwyll, a ffurfiau tebyg sydd yn ymddangos fel yn llanw'r bwlch.

Yn Llyfr Gwyn Rh.td. 139, 25, ceir "gwylwr" yn ymgripach a gwiddon. "Gwillwr" ydyw yn Llyfr Coch Her. 210, td. 24; ond "un o'r gwylwyr" yn Llyfr Gwyn Rh. td. 621, 15. Er hynny y mae'n anhebyg iawn mai "gwyliwr" (watchman) ydyw'r gair yma. Yn Llyfr Coch Her. td. 208, 27. Ceir "gwylwyr" ond, "vylwyr" geir yn Llyfr Gwyn, td. 386; ac y mae'n amlwg fod dryswch mawr yma ac y mae'r dryswch wedi lledu ymhell.

Yn Zeuss, td. 1053, ceir y gair taguelguiliat (h.y. "tawel gwyliad" ym marn Zeuss) yn gyfystyr a'r Lladin silicernium. Ar dd. 1063 ceir gwilat yn gyfystyr a'r Lladin hilaris (gwr llawen), a thybir mai o'r gair "gwyl" (festival) y tardda. Yn Bret. Gloss. Orleans (Loth. Voc. V. Bret.), ceir "gwiliat" yn gyfystyr a'r Llad. tonsa (eilliedig?); ac yn Zeuss, td. 1065, ceir guiltiatou yn gyfystyr a'r Lladin tonsuras, ac esbonnir hwn gan Zeuss fel gair yn tarddu o "gwallt" (hair) a chan Loth, Voc. V. Bret. td. 138, fel yn tarddu o'r gair "gwellaif" (shears). Os yw'r esboniadau uchod yn gywyr i gyd yna aeth y cyfnos yn nos. Ymddengys i mi mai yr hen air Cymraeg cyfystyr a Filé y Gwyddyl ydyw yn y gwraidd, ond fod yr hen ddosbarth oedd yn dwyn yr enw yn dadfeilio, a'r enw yn mynd yn enwau ag yn aneglur fel y bu yn hanes "bregywryd"