Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a "cywryd." Yn gyntaf oll cadwer y pethau hyn mewn cof am Filé y Gwyddyl:

(a) Yr oeddynt yn urdd o feirdd.
(b) Hwy oedd yr urdd uchaf.
(c) Yr oeddynt y tuallan i'r Eglwys, a hwy oedd yn cynrychioli yr hen dderwyddon.
(ch) Mewn ty tywyll y byddent yn cynnal ysgol y beirdd.
(d) Yr oeddynt yn eillio eu penn mewn ffordd neillduol.

Dywedodd Windisch yn y Tain, td. XLV, nad oedd gair yn y Gymraeg yn cyfateb i'r Filé, a derbyniwyd ei air ef ar hynny heb holi; ond sylwer:

(a) Beirdd oedd y gwyr hyn yn Zeuss. Felly yr oedd hilaris (gwr llawen) yn air da am gwilat pan oedd "bardd" yn gyfystyr a joculator.

(b) Yr oeddynt y tuallan i'r Eglwys. Felly yr oedd silicernium yn gweddu yn dda am taguel gwiliat. Gair am angladd oedd silicernium, ond defnyddid ef i fychanu a gwawdio pobl fel pe galwai dyn un arall yn "hen gwd esgyrn."

(c) Yr oeddynt yn eillio eu pen mewn ffordd neillduol. Felly yr oedd tonsa a tonsura yn gweddu am y gair. Y mae hanes y ddau dderwydd hynny Mael a Caplait yn amser Patrig Sant yn ddigon hysbys. Cawsai'r ddau tonsure, yn ol arfer y Derwyddon, o glust i glust. Dyna ystyr Mael. Derbyniodd Caplait tonsure yr Eglwys hefyd, a dyna ystyr ei enw yntau capillatus (y diwallt) (gwel Bury, Patrick, td. 142).

Nid oedd yr eillio pen hyn yn gyfyngedig i dderwyddon y Gwyddyl. Yr oedd yn beth cyffredin gan y beirdd. Dyna Baldwf Dywysog yn eillio ei ben er mwyn gallu ymrithio fel bardd neu erestyn a "gwaryyd" (gwel Llyfr Coch, II, td. 186, 25), oblegyd eillio pen felly oedd arfer y beirdd. Sonia hyd yn oed Dafydd ab Gwilym am ei "gorun," ac ar sail hynny ceisiodd yr athro Ifor Williams (D. ap Gwilym, td.