LVIII); brofi iddo fod yn fynach. Felly hefyd y bydd yr Archipoeta yn son am y vates decalvatus (h.y. y bardd eilliedig). Nid yw hyn yn ddigon i brofu'r peth, a rhaid chwilio Cymraeg diweddarach. Ceir darn diddorol iawn yn Llyfr Taliesin, td. 10, ar "Dydd y Farn":
"Dews duw delwat gwledic gwaed neirthyat Crist Iessu gwylyat." - "Dydd y farn" ydyw ac fel y cofir y mae'r Testament Newydd yn dweyd yn ddiamwys iawn mai'r Mab ac nid y Tad fydd yn barnu'r byd y dydd hwnnw [Matth. xxv, 31-46; Ioan. v, 25-30, etc.]. Y mae traddodiad y canoloesoedd yn gyson a hyn yn ol y beirdd a'r arlunwyr. Cofir am Juste Judex y "Dies Irae," a Judex Altus y "De Die Judicii." Dyna ystyr y gair "Crist Iessu Gwylyat"--efe yw'r barnwr mawr a'r awdurdod ar y gyfraith. Efe oedd yn llanw'r swydd y dydd olaf lenwid yn llysoedd yr Iwerddon gan y Filé, a pha air rhagorach ellid gael i gyfleu'r ystyr i Gymro cyfarwydd a'r hen drefn? Nid "gwyliad" (to watch), ond "gwylyad" un o'r hen "Filid" a phen Llys Barn ydoedd. Gwelsom uchod fod y gair yn gwamalu rhwng gwil, gwyl, gwill, gwilt, etc.; a cheir yr un peth yn blino beirdd y canoloesoedd. Olrheiniodd yr athro I. Willams (Celt. Bullet. 1, td. 229-34) y gair gwilliad (bandit), etc., yn ol i "gwyllt" (wild). Derbyniodd Syr J. Morris-Jones hyn (Cerdd Dafod, td. 239+nod. 3); ac ar bwys hynny olrhain y gair" diwylliant" yn ol i digwyllt (not wild). Ceir "gwyll" a "wyll" hefyd, ac olrheiniodd yr athro I. Williams "wyll" yn ol i'r un gwraidd a owl y Sais.
Troer at y gair "diwylliant" gyntaf. Yr hen ffurf oedd dyuyl, diuyl, dywyll (gwel Lewis, Law Gloss. td. 136); sylwer fod di- a dy- ynddo a -uyl a -uyll. Gwelir yr hen ystyr yn y cwpled:
"Nos da i'r Ynys Dywell
Ni wn a oes un ynys well."