Yn W.G. td. 240, dywedir mai cam am "ynys dywyll" yw. "ynys dywell," a chyfieithir y llinell: "Good night to the Dark Isle." Digon gwir mai cam am "dywyll" yw "dywell" yma, eithr nid "tywyll" yw'r gair ond "dywyll." Ystyr y llinell yw "Good night to the well tilled land." Sir Fon yw'r olaf o'r tair sir ar ddeg i haeddu yr enw "tywyll," a'r gyntaf i'r enw "dywyll" fel Mon Mam Cymru ai thir âr enwog.
Dyry yr athro I. Williams bwys mawr ar enw "Myrddin Wyllt," ac mai "gwyllt" (wild) ydyw. Ni sylwodd fod yna air "gwyllt" sydd yn air ag ystyr urddasol iddo yn fynych. Ceir hyn yn RBP. 1, td. 1409:
"Da iawn yw gwedd dyn gwyllt."
Felly am "gwyllyon" a "gwilliaid" nid bandits mohonynt, onid i rai. Nid ydynt ddim gwaeth na gwyr cerdd arwest yngolwg y myneich. Pa beth rhagorach na hyn ellid ddweyd am neb (RBP. 1, 1421, 41):
"Can hynny kynhennu ny wnant
Can wyllyon kelydon kerdant."
Fel hyn y disgrifir y "Tri Llanc" yn y Ffwrn Dan (RBP. 1, 1411):
"Tri meib trwy ymwan rodri n roi oedran
A dorrei allan ynt drwy willieit
Tri meib or triman. Duw uu yny ffwrndan
.............................................
Rodyon gwwilw gwyllyon dym gwallouyei."
Onid ydym ar gam, ceir "gwyllan" (prophetess) fel benyw o "gwyll" yn Llyfr Du Caer. td. 61, 13:
"Rymdwod guyllan o pell y mi."
Nid yw Myrddin Wyllt yn fwy gwyllt na "Ieuan Gwyllt." Dewisodd y beirdd ffugenw yn cynwys y gair "gwyllt" o dro i dro ar hyd yr oesoedd, ac y mae yn ymddangos i mi iddynt wneud hynny am yr un rheswm a'r beirdd yn dewis yr enw Alaw. Mae'n wir fod yna hen chwedl am Myrddin yn colli ei bwyll, ond y mae ysgolheigion yn dechreu dod i