Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

weld mai un Myrddin oedd, ac nid dau, ac y mae'n ymddangos i mi mae "Myrddin Wyllt," h.y. "Myrddin Wyll" neu "Myrddin y File" yw hwnnw, ond fod y myneich, wrth reswm, wedi mynd i edrych ar y Filé fel pagan y tuallan i gymdeithas barchus y gwyr uniongred. Buasai lawn mor deg galw pob Pab Silvester yn ddyn "gwyllt" a galw Myrddin, oblegyd Merlin Silvester oedd yntau i rywrai.

Y mae un peth arall sy'n gwneud y dirgelwch yn fwy, oblegyd ceir enwau tebyg y tuallan i Gymru-wedi eu ffurfio yn debyg ag wedi eu esbonio fel yr esbonia yr athro I. Williams "Myrddin Wyllt." Yn hen lên Provence ceir rhywun pwysig elwir yn Wildman (gwel Zeit. f. Rom. Phil. 1924, td. 129). Ceir llun "Der wilde Alexander" ymhlith prif feirdd yr Almaen yn Lls. Manesse yn llyfrgell Heidelberg. Tybid gynt mai "dyn gwyllt" oedd, ond nid oes neb yn credu hynny heddyw. (Gwel Schultz, Typisches.)

Ceir felly amledd o ffurfiau fel gwyl, wyll, wyl, gwill, gwil, diwyl, dywyl, dywyll, etc. heb ddim perthynas rhyngddynt a'r gair wild na'r gair owl. Pe bai "gwyll" yn llygriad of "gwyllt" yma, yna ceid "gwilltiaid" a "gwylltion" wiethiau ond "gwilliaid" a "gwyllon" geir ohyd. Gwir ddigon ei bod yn anodd dadrys y cwbl eto, ond y mae'n amlwg fod yna gyfres o eiriau yn cynnwys gwyl, gwyll, gwil, gwill, yn golygu poet, prophet, judge, ac yn wyr uchel iawn mewn cymdeithas: mor uchel nes i'r bardd weld mai dyna'r enw oedd yn gweddu i'w roi ar y Barnwr yn y dydd diweddaf.

Fel clo ar yr oll, ceir cip ar y pennaf ohonynt mewn goleu newydd iawn yn Iolo MSS. td. 74-7. Yno ceir tair pennod ar "Benwyll" wedi eu tynnu o Lyfr Antoni Pywel a Llyfr Du Pantlliwydd:

"Yn Amser benwyll Athraw y doded Celfyddyd gyntaf ar ddwyn Arfau bonedd, ag nis dylid arfau i neb onid a geffid yn wr o fonedd cynhenid sef ym mraint y nawfed ach neu ynteu y nawfed goresgyn....A Benwyll Arwyddfardd a wnaeth wellhâd ar drefnau Arfau Bonedd.