herwydd Llun a lliw nag a fuasai cyn no hynny herwydd gwybodau a Chelfyddyd a fyfyries ef ei hun o'i ethrylith ai bwyll o awen gynhenid...ac nis gellid arfau bonedd wrth amgen o drefn na threfn Benwyll Athraw, ag nid gwr wrth arfau Bonedd nebun na fedrai tynny Arfau Benwyll...yn Llyfr Benwyll y dangosir modd y dodes Arthur arfau bonedd, sef y peris ef Ford gron, a gwaedd a gosteg gan Gorn Gwlad undydd a Blwyddyn mal ai clywid gan bawb yn holl Deyrnasoedd Ynys Prydain ai pherthynasai nid amgen no Ffraingc ar Eidal ar Albaen ac Iwerddon a Llychlyn," etc.
Nid ydym yn rhoi dim pwys ar gywirdeb yr hanes geir yn hyn yma, ond yn unig ddangos mae'r Benwyll oedd prif awdurdod y wlad ar achau a threfn cymdeithas. A phwy yw y Benwyll ond y Filé pennaf o'r rhai oedd yn cynrychioli hen drefn y derwyddon? A pha ffugiwr allasai greu darn fel hwn oi ben ei hun?
Fel hyn y dywed Dr Calder am waith y Filé: "Filidecht covered the whole field of romance, history, biography, geography, grammar, antiquities and law" (Auraicept, td. XIX).
Nid dynion gorffwyll na lladron na dylluanod ychwaith yw'r "gwyllon," ond pendefigion yr hen ddiwylliant ar eu goreu. Yr oedd crefydd Cred yn mynd yn drech na chrefydd y Derwyddon, a'r mynachod, o raid, yn eu herbyn, a hwythau yn gorfod llechu yn yr encilion. O dipyn i beth, aeth "gwilliaid" yn bandits feallai fel yr aeth scholares yn gyfystyr a "milwyr" yng nghyfraith Rhufain, a sgolog yr Alban yn clodhopper; feallai fod rhai wedi eu cysylltu a'r tywyllwch am mai mewn tai tywyll y byddai y rhai hyn yn cynnal ysgol.
Yn ddilys ddigon, y mae Filé ag Ollav y Gwyddyl yn ddigon amlwg yng Nghymru. Daethai crefydd yn gynarach i Gymru nag i'r Iwerddon, a chiliodd yr Alaw a'r Gwyll i'r cysgodion ynghynt yng Nghymru nag yno, a bu raid iddynt newid enwau a disgyn yn is mewn cymdeithas, ond ni ddilewyd mohonynt ychwaith.