Y MEBINOG
Gyda'r beirdd, yr hen feirdd wrth reswm, y buom yn ymdroi hyd yn hyn, a gwelsom nad oedd canu fel beirdd heddyw ond rhan fechan iawn o'u gwaith. Wrth droi at y Mabinogi neu'r Mabinogion nid ydym yn gadael y beirdd a barddoniaeth a throi at ryddiaeth, ond yn ol arfer ddiweddar o siarad. Yn wir, y mae llawer mwy o farddoniaeth ym Mabinogi Cymru nag a geir mewn llu o'i hawdlau a'i chy- wyddau. Perl llên Cymru yn ddiau yw ei Mabinogion. Pa ddosbarth neu urdd yn hen drefn y beirdd adawodd y trysor hwn yn etifeddiaeth inni? Dyfalwyd llawer iawn am y gair "mabinogi," ac nid ydym wedi cyraedd y talar eto. Yn ol yr Iolo MSS. td. 211-2, mewn penod ar "CADAIR TIR IARLL ceir hyn:
"Bardd gwarantedig o wybodau a chelfyddyd Cerdd dafawd ai pherthynasau gan farn a gradd Cadair gyfaenad a ddylai gymmeryd Mebinogion attaw ar addysg Llen a llyfrau a gwybodau Cyfaenad Hen feirdd Cenedl y Cymry nid amgen na thri ar unwaith herwydd y tair gradd a ddylit ar febinogion Cerdd dafawd.... Mebinog Yspyddaid.... Mebinog Gorddyfnaid. . . . Mebinog Braint."
Y mae hwn mor llawn o ddulliau ymadrodd hen retoreg Morganwg nes bod yn anodd iawn ei ddeall, ond fe dal yn dda am yr ymdrech i wneud hefyd.
Mebinog a Mebinogion ac nid Mabinog geir yma, ac enw ar ddisgybl yn hytrach na "chwedl" ydyw. Ni wyddys am y darn hwn yn unlle ond yn yr Iolo MSS., ac arfer pawb heddyw yw anghredu hwnnw. Felly rhaid cloddio maes arall a gadael i'r Iolo MSS. am dipyn ar neilltu.
Yn ol Pughe ystyr "mabinogi" yw juvenile tale, "mabinogi Iesu Grist" (infancy of Jesus Christ, one of the spurious gospels). Yn ol Schultz, W. Tradition, td. 71-2, guide for instruction of young bards ydyw. Yn ol Stephens, Lit. Kym. td. 433, tales for young men written by priests and despised by