bards ydyw. Yn ol Rhŷs, Red Bk. 1, td. VIII, literary apprentice ydyw; a dywed Ed. Anwyl amen i hynny yn Zeit. f. celt. Phil. 1, td. 278. Yn ol Dr J. G. Evans, Llyfr Gwyn Rh. td. XXVI, infantia, Ffr. enfances, ydyw ei ystyr. Yn ol Syr J. Morris—Jones, Cymru, 1896, td. 136, a Beirniad, 1914, td. 107, nid yw yr hyn geir yn Iolo ond: "all is a figment of the Glamorgan bards." Yn y Beirniad, IV, td. 106—11, dywed yr athro Lloyd Jones, na thal derbyn esboniad Rhŷs, nag ystyried esboniad Dr Evans; gair benthyg ydyw, medd yr athro, o'r Wyddeleg Mac-ind—ic, llysenw ar Oengus. Dywed yr athro T. Gwynn Jones (Bardism, td. 82) fod yr esboniad hwn yn derfynol ag yn torri pob dadl. Pe ceid maginog neu mabinob fel gair benthig o Mac-ind-oic, a bod rhyw gysylltiad rhwng Oengus neu ei chwedlau a Chymru, gellid gweld rhyw reswm dros ystyried hyn.
Paham y mae pethau mor ddyrys am hanes perl drutaf ein llên? Yr wyf yn credu y gellir olrhain y gair Mabinogi yn ol i'w ffynon, a hynny heb wneud cam a hanes na iaith; ac esbonio amryw bethau dyrys ag unioni llawer cam wrth wneud hynny.
Rhaid dechreu ym Morganwg, ond nid ym MSS. Iolo Morganwg, ond yn hytrach ym muchedd Samson Sant aeth o Fro Morganwg i Lydaw. Ceir llawer o lawysgrifau Lladin o Fuchedd Samson, ond er mwyn hwylusdod, difynnir yma o gyfieithad Saesneg newydd Dr Taylor (arg. S.P.C.K. 1925). Fel hyn y dywed y prolog am sail y fuchedd, td. 4—5:
"I derived from a certain religious and venerable old man whose house beyond the sea Samson himself had founded. And he, leading a catholic and religious life there, for nearly eighty years, in times most approximate to those of the aforesaid St Samson, and being himself a cousin of St Samson and a deacon, truthfully assured me that St Samson's mother had handed (the information) to his uncle, a most holy deacon, who himself was cousin to St Samson, and (the old man) kindly