Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

related to me many particulars of the saint's wonderful career. And not only so, but also very many and delightful accounts of the amazing deeds which he performed on this side of the sea, in Brittany and in Romania, and those which the said holy deacon, Henoc by name, had brought from beyond the sea, did the venerable old man, of whom we have already spoken, who lived with me in this monastery, cause them continually to read piously and attentively before me."

Y mae'r uchod mor dywyll a dim ddaeth o retoreg Morganwg erioed: Henoc yn dwyn o Fro Morganwg i Fynachdy Dol hanes yr hyn a ddigwyddasai yn Llydaw! Oherwydd y dryswch hyn, ceisiodd yr athro J. Loth newid dipyn ar Lladin y gwreiddiol, ond erys y dryswch gyndrwg a chynt. Yn ol Fawtier (La Vie de S. Samson, td. 82-3), nid oes un o'r xx. Lls. yn hŷn na'r xi. ganrif, ac y mae lliaws o bethau tywyll iawn ynddynt. Un o'r pethau tywyll hyn ydyw yr Henoc yn y darn uchod. Y mae Dr Taylor ag eraill yn edrych ar Henoc fel enw priod, ond onid wyf ar gam, enw swydd ac nid enw swyddog ydyw, yr un fath a "bregywryd" uchod. Wrth reswm, peth digon cyffredin yw hyn. Cysegrwyd amryw eglwysi i "St Amphibalus" Sieffre o Fynwy a neb yn gwybod hyd yn ddiweddar mai enw mantell ac nid enw sant oedd "amphibalus." Felly yma, Henog oedd sail y fuchedd ond erbyn yr xi. ganrif, aethai Henog yn ddiagon o'r enw. Os troir i'r fuchedd Lladin yn Fawtier, ceir hanes y gwr yma yn par. 2, 3, 4, 5 mi gredaf. Yn par. 2 librarius ydyw, gwr enwog iawn a phobl o bell yn cyrchu ato yng Nghymru i ofyn ei gyngor. Yn par. 3—4 Magister Librariusque ydyw a gwr hyddysg yn hen gyfraith Cymru, oblegyd ceir ganddo un o'r tameidiau mwyaf gwerthfawr sydd ar glawr o hen gyfraith Cymru. Yn par. 4 proffwyd yw'r Magister hwn a phroffwyda yn y par. nesaf fel gwr hollol gyfarwydd a hanes Cymru. Credodd Dr Taylor mai Librarius oedd. enw'r Cymro mawr hwn, ond y mae'n amlwg inni, mai enw