Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ei swydd ydyw. Ystyr gyffredin librarius oedd antiquarius h.y. "gwr yn cadw ysgol." Y mae'r enw Cymraeg henoc, a'r Lladin antiquarius yn gyfystyr felly. Ni raid er hynny i henoc fod yn gyfieithad o antiquarius, oblegyd y mae gan y Cymro a'r Gwyddel gyfres o enwau tebyg wedi eu seilio ar y gair hen. Yn ol Dr Denk (Gesch. d. Gall. Unter. td. 71). enw yr athro oedd a gofal dysg llyfr arno oedd antiquarius neu librarius ac yn ol td. 117, rhai yn ysgrifennu llyfrau oedd yr antiquarii yn ol cyfraith Rhufain.

Yn y Journal of Theological Studies am 1925, ceir adolygiad manwl iawn ar Samson Dr Taylor gan y athro Burkitt, a thrinir yn wych iawn y darn Lladin ddifynnwyd uchod yn Saesneg Dr Taylor. Gwrthyd Dr Burkitt fel deddf, esboniad Dr Loth a Taylor, a'r newid a wnaethant ar y Lladin; ond y mae yntau yn methu dod allan o'r dryswch yn llwyr hefyd. Henoc yw sail y fuchedd, ond y mae bwlch mawr rhwng Henoc Llanilltyd a'r hanes yn y Dol yn Llydaw (gwel td. 55). Y mae llawer o'r dryswch yn cilio, mi goeliaf, os edrychir ar henoc fel enw cyfystyr a'r librarius yn y Fuchedd Lladin. Trinia Dr Taylor librarius fel enw dyn, ond i Dr Burkitt gair cyffredin am wizard, magician ydyw. Yn ddios, y mae Dr Burkitt yn gywir, ond cofier mai'r ystyr ydyw "un cyfarwydd a hen hanes paganaidd a hen gyfraith ag arferion Cymru y tuallan i'r Eglwys." Os edrychir ar henoc a librarius fel geiriau cyfystyr am hen ysgolhaig felly, fel "cofiadur hyddysg yn hanes a llên Cymru," cilia llawer o'r niwl os nad yr oll o hono. Nid yw hyn yn ddigon, wrth reswm, i ddweyd mai yr un gair yw henog a "(mab)inog," a rhaid cloddio ymhellach eto. Yng nghyfraith Hywel Dda, y mae dau air, neu ddwy ffurf ar yr un gair sydd yn debyg iawn i henog: "amhiniogeu" ag "amhinogeu." Ystyr y naill ydyw two door posts a'r llall two keepers of land boundaries. Esboniwyd "amhiniogeu" fel brawd i'r gair Llad. antae h.y. "pileri o bob tu'r drws"; a chredais i mai dyna'r hen ystyr a'r hen ffurf. Yr oedd yn dilyn felly, nad oedd yr "amhinogeu" oedd yn cadw hanes eiddo tir onid ail ystyr