i'r gair hwn. Yn Wotton, Leg. td. 421, § 421, ceir gair diddorol iawn am y gwyr hyn: rhaid iddynt fod yn wyr addfwyn, y mae eu gair hwy yn derfynol ar bob dadl am dir, a gelwir hwy yn geidwaid, a dau ydynt mewn rhif. Os troir i Lewis, Gloss. 69, ceir ychwaneg o hanes y ceidwaid hyn. Dau geidwad sydd fel dau Filé y Gwyddel, a dau Vercobret yr Aedui, hwy sydd yn cadw gweithredoedd y tir, hwy sydd yn torri pob dadl am fraint tir hefyd. Os edrychir i gyfreithiau llys Hywel, ni cheir hanes am "geidwaid" fel swyddogion yno, ond y mae'n amlwg pwy ydynt er hynny—yr ynad llys a'r bardd teulu. Yn ol cyfraith Hywel, dylai'r ddau hyn gael tawlfwrdd yn rhodd bob blwyddyn a modrwy. (Gwel Wade— Evans, Med. Law, td. 16; A.L. 1, td. 34.) Nid throw—board a ring yw y rhai hyn, fel y tybiodd A. Owen a Awdwr Bardism (td. 11—12), ond writing table a signet. Tybiodd pawb, gellid meddwl, mai bwrdd i chwareu chess oedd y bwrdd i'r ddau swyddog hyn yn y llys, ond chequer board ac nid chessboard oedd y "tawlfwrdd" hwn. Hynny, fel y cofir, roddodd ei enw i'r Board of Exchequer. Yn Llsg Corp. Chr. Coll. Oxf. 1221 ceir llun gwerthfawr iawn o dawlfwrdd yn perthyn i'r xi ganrif. Yr enw sydd arno ydyw Alea Evangelii h.y. tawlfwrdd y Pedair Efengyl. Nid clawr i chwareu chess i'r pedwar Efengylydd ond mynegai i'r Pedair Efengyl. Tawlfwrdd i gadw pethau ar glawr oedd y tawlfwrdd i'r ynad a'r bardd teulu. Yn Lls. Peniarth, 28¹ ceir llun yr ynad a'r bardd teulu a'r clawr yn ei law, ac y mae'n amlwg mai Clawr Iraid (wax tablet) sydd ganddynt. Y ddau geidwad—yr hen amhinogeu—oedd yn cadw pob math o gyfrifon a gweithredoedd yn y llys, a rhaid i'r ddau gael tawlfwrdd fel arwydd o'u swydd gan y brenin at hynny. Ceir peth tebyg iawn yn MS. Lat. 9661, Bibl. Nat. Paris. Yno ceir dros gant o luniau "Insignia" gwahanol swyddogion Ymherodraeth Rhufain. Yn eu plith [llun 79—80] ceir Insignia y Primicerius Notariorum a'r Magister Scriniorum (h.y. Pennaeth yr Ysgrifenyddion a Phennaeth y Trysoryddion) llun
1 Gwel y darlun ar ddechreu'r llyfr hwn.