llyfrau ysgrifennu sydd gan y naill a'r llall. Ceir enw arall ar y ddau swyddog hyn enw ddaeth gydag arferion newydd gwyr Normandi. Sonir yn Llyfr Coch Her. I, td. 244, am yr "eircheit" oedd yn eistedd nesaf i'r dysteyn. Edrychir ar y rhai hynn fel rhai yn "erchi" (request), a defnyddir y gair felly mae'n wir. Yma, swyddogion penodol yn y llys ydynt, a'u gwaith oedd gofalu am yr "arch" h.y. yr arca = fiscus, thesaurus, y gwyr oedd yn gofalu am gyllid y brenin. Yr oedd gan frenin Cymru fel brenin Lloeger drysorfa, ond nid oedd gan y naill na'r llall yr un trysorydd ar wahan i'r maer. Gyda gwyr Normandi, daeth y Thesaurarius i Loeger (gwel Larson, td. 132). Beirdd o ryw radd oedd yr "eirchiaid" yn nesaf at y dysteyn, a'u gwaith oedd gofalu am gyfrifon y wlad. O hynny y tarddodd y ddihareb fod "Kyvarws mawr kir llawr Eircheit" (Llyfr du Caer. 11,6). Nid rhoddi kyvarws iddynt am eu bod yn "erchi" ond hwy yn rhoddi kyvarws i eraill am mai hwy oedd yn gofalu am Arch (treasure chest) y brenin. Sonir am kyneircheit a kyneilweit hefyd (gwel Llyfr Aneirin, 4, 12). Os troir i Memoirs Clanricarde, td. clxxiii, ceir gweld lle yr historian ar wahan i'r professed poets. Y mae "Henog" Cymru yn cyfateb mewn ffurf ag ystyr i enw a swydd Shanachy y Gwyddel. Ystyr senchas y Gwyddel hyd amser diweddar yn wir oedd "usual ways and customs of the ancients" (gwel Memoirs Clanricarde, td. clxxxiii). Yn ol Keating, chronology ydyw ystyr Senchas ond nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng y naill a'r llall gynt, ac y mae hyn oll yn ateb i'r hyn geir yn llyfr Samson am yr Henog, a chyfraith Hywel am yr "amhinogeu." Heblaw "henog," ceir "heneif," "hyneif," "henefydd," "hynefydd," h.y. "hen + nefydd" yn cyfateb i nemid (judge) y Gwyddel. Dichon fod "ynad," "hynad," etc. yn tyfu o'r un gwraidd, ag yn perthyn i'r un gyfres. Rhaid i Shanachy y Gwyddel allu ysgrifennu hanes a chwedl o'i gof ar ol eu clywed yn yr ysgol, a rhaid iddo eu dwyn i'r athro i hwnnw gael edrych drostynt. Dyn dan ddisgyblaeth ydoedd y Shanachy fel y Mebinog, a gwelir fod y disgrifiad geir yn yr Iolo MSS. yn eithaf cywir i'r cwbl geir uchod.
Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/69
Gwedd