Y ddadl fawr ynghylch y Mabinogi bob amser oedd: pa un a ddylai'r gair fod yn Mebinogi neu yn Mabinogi, ond nid yw yn debyg y torrir y ddadl honno byth. Y peth mwyaf ystyfnig gennyfi oedd yr —ogi: os mai mebyn neu mabin oedd y gwraidd, nid oedd dichon esbonio ystyr yr —ogi, ond y mae'r drafferth honno yn diflannu pan welir mai hinog ydyw'r gair yn ei sail. Os troir yn ol at yr Iolo MSS. gwelir mai "llyfrau a gwybodau cyfaenad hen feirdd cenedl y Cymru " oedd llyfrau ysgol y Mebinog. Felly nid oes wahaniaeth rhwng ystyr "Ystoria Peredur" neu "Hanes Taliesin" a "Mabinogi." Geill Pedeir Keine y Mabinogi fod i'r Mebinog yr hyn oedd y Quadrivium i ysgolhaig ysgol yr eglwys, a geill beidio bod hefyd, oblegyd yr oedd gan y cerddorion eu pedair colofn a'u pedair cadair, a'r Eglwys ei Phedair Efengyl. Os yw yr uchod yn gywir nid yw'r Mebinog ond Henog ieuanc, prentis Shanachy. Fel yr oedd heneif a hyneif, henefydd a hynefydd, etc. yn ansicr rhwng yr -e- ar -y-, felly hefyd "henog" a "hinog." I'r un teulu y perthyn y tri gair.
CULFARDD, BARGODFARDD
Dywedwyd uchod fod Dr Grossmann wedi casglu tua hanner cant o enwau ar y minstrel o fewn cylch cyfyng yn y canol oesoedd. Cam fyddai tybio fod yna hanner cant of wahanol fathau o'r minstrels hyn. Rhaid i'r "erestyn (minstrel) allu canu pob un o'r naw offeryn cerdd oedd mewn arfer gyffredin y pryd hynny; am hynny gelwid ef weithiau yn "bibydd," weithiau yn grythor, etc., ond un ydoedd serch hynny o dan y gwahanol enwau. Yr oedd yr hen drefn yn chwalu a defnyddiau'r drefn newydd yn dod i mewn drwy bob agen gyda'r pedwar gwynt o'r ddegfed ganrif ymlaen.
Ar dd. 183 o Gymru, 1896, ceir cyhuddiad difrifol yn ebyn beirdd Cymru am eu "dichell," ac fel tyst o hynny dywedir: "Fel rheol, nis gŵyr y gorseddwyr ym mha ddosbarth i osod