CULFARDD, BARGODFARDD y cylfardd, ond fe'i cyfleir yma,...gyda'r bargadfardd; a rhoddent hwnnw yny trydydd dosbarth, am eu bod yn tybied mai bardd yn astudio ar ei ben ei hun oedd" os troir i Anwyl i chwilio am y cylfardd a'r bargadfardd, troi yn ofer wneir. Os troir i "Gerdd Dafod" Syr John a'r W.G. troi yn ofer wneir yno hefyd; ac eto talai y ddau enw hyn gystal a'r un dau air am eu gogryn. Yn ol traddodiad yr Iwerddon (gwel Irische Texte, III, 5) yr oedd y culbard yn perthyn i'r ail ddosbarth o'r beirdd. Y mae'n amlwg mai "cerddor" ag nid "bardd cerdd dafod" oedd "cylfardd" Cymru, ac nid anheg edrych arno fel brawd i culbard yr Iwerddon. Pan oedd Seisyll Bryfwrch a Kynddelw yn ymryson am fod yn bencerdd i Madog ab Meredydd (gwel RBP. 11, 222—3) y mae Seisyll yn dadlu mai bardd oedd Kynddelw, ond ei fod ef ei hun wedi codi o ddosbarth y "culfardd," ac mai o'r dosbarth hwnnw yr oedd yn iawn dewis pencerdd. Fel hyn y dywed:
"Mi bieu bod yn bennkert
O yawnllin yawn llwyth culuart."
Yng Nghywydd Marwnad gwych Iolo Goch i Lywelyn. Goch (gwel Iolo Goch, td. 48) ni fedr Iolo ei hun ganmol yn fwy na dweyd na wyddai Tydai Tad Awen ei hun na'r un "culfardd" ychwaith ganu fel canu Llywelyn:
"Ni wnai Dydai Dad Awen
Ni wyddiad gulfardd hardd hen
O gerdd bur wneuthur a wnaeth
Gwrdd eurwych ei gerddwriaeth."
Sonir yn Iolo MSS. 265 am seiniau cylfeirdd cor Llanfeithin; yn yr Iolo MSS. td. 217, ceir y "cylfardd" a'r "bargadfardd" a'r "ofydd" yn y trydydd dosbarth. Y mae rywle ar ol y prif ddosbarth gan Iolo a Seisyll, ond y mae yn wr i'w barchu ag yn rhannu'r clod a'r "awenydd." Yr oedd cerddoriaeth cerdd dannau yn codi i fri mawr yng Nghymru ac nid