Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhyfedd fod anhawsder ynghylch lle'r "cylfardd." Yn Llyfr Du Caer, td. 102 dywed Taliesin fel hyn:

"Vgnach bendith ithorsset athvo Rad ac enrydet.
Taliessin viw inhev talaw itti dy gulet...."
(Vgnach blessed be thy throne, thine be grace and honour.
I am Taliesin, I shall requite thy praise.)

Ystyr dda sydd i'r gair "culedd" yma, ac nid yw yn perthyn i'r un byd a "culedd" leanness, narrowness. Mae'n debyg gennyfi taw un o'r aes ciuil h.y. "gwyr music" oedd y culbard yn yr Iwerddon, ac un felly, mae'n amlwg, oedd y cylfardd yng Nghymru: bardd "cyl" neu music. Dywed Dr Pedersen, I, td. 139, mai ffurf ar y gair Gwyddelig cetal (Cymr. cathl) ydoedd ceol (music) y Gwyddel, ond nid yw yn esbonio pa fodd y gallai ceol a cetal fod yn ddau frawd. Y mae ceol y Gwyddel yn ymddangos fel brawd i "cyl" neu "cul" y Cymro yn hytrach nag i'r gair Cymraeg "cathl."

Yr oedd y "cylfardd" yn perthyn i'r un dosbarth a'r "bargadfardd," ond o ba le y tarddod yr enw dieithr hyn? Gelwid beirdd Cymru gynt weithiau wrth enw'r mesurau arferid ganddynt, a gelwid y mesurau weithiau wrth enw'r beirdd ganai arnynt. Yr un oedd geiriau crefft cerdd dafod a cherdd dant, a hynny sydd yn ei gwneud hi mor anodd deall yr hanes heddyw. Felly am "bargadfardd": ceir "bargad" am fesur bardd ac hefyd fel enw ar gyweir mewn cerddoriaeth. Os troir i'r hen draethawd ar gerddoriaeth geir yn y Myv. Arch. ceir bargad, bargod, bragad, bragawd, bragod, etc. (gwel Myv. td. 1071, 1145, 1147, 1206, 1216, S. D. Rhys, td. 299, 303, etc.). Ceir "bargatvard" yn Llyfr Tal. td. 22, 15; a cheir "bragod dannau" gan S. D. Rhys, td. 303. Yn RBP. 1, td. 27, ceir "difregwawt taliesin" ac yn yr un cywydd yn y Myv. Arch. td. 76, ceir DIVREGWAWD TALIESIN neu Ymddivregwawd: neu Bragawdgerdd Taliesin. Dios gennyf, mai yr un gair yw "bragad," "bargad," "bragod," etc. a'r gair Gwyddelig breccad. Enw mesur ydyw hwnnw, lle y ceir mwy nag arfer o odlau yny llinell