(gwel Thurneysen, M.I.V. td. 131). Yng Nghymru bellach, yr oed hynny yn groes i arfer newydd y beirdd goreu, a hawdd deall felly paham yr aeth y "fregod" hyn yn "ffregod" (gibberish) ar lafar gwlad. Y mae W.G. ysywaeth, yn dilyn Stokes ac yn cysylltu "ffregod" a'r Ellmyn. sprechen, ond dyfaliad ydyw hwnnw ac nid yw yn debyg na wyddai yr hen Gymry y gwahaniaeth rhwng "llafar" a "ffregod." Yn wir y mae "ffregod" yn un o amryw hen fesurau wedi eu troi o'r neilldu a'u henw yn enw mwyach ar feiau cerdd fel y ceir gweld am "tor mesur" a "gair mwys" a "glogyrnach," etc. Os edrychir ar "Difregwawd Taliesin" ceir gweld ei fod ar y cyfan yn weddol rydd o'r "gormod odlau ynghanol y llinell," er nad yw yn "ddifregawd" hollol ychwaith. Yn Llyfr Tal. td. 22. 15, sonnir am "bargat fard," ac y mae'n amlwg nad yw yn uchel iawn ei barch yn yr oes honno. Yn Myv. Arch. 1071, rhyw fesur cymysg yw'r "bragod gyweir," a chyfieithir ef yno yn mixed or minor key ar dd. 1216. Y mae'r defnyddiau sydd gennym yn rhy brin lawer i ddyn allu dweyd i'r fodfedd ble y safai'r "cylfardd" a'r "bargadfardd," ac y mae Cymru'r cyfnod yn rhy llawn o gysgodion. i ddyn allu dweyd y gwahaniaethu rhwng bardd a'i gysgod i fod yn bendant am danynt. Yr oeddynt yn eu dydd yn amlwg yn perthyn i ddosbarth pwysig yn hen drefn cymdeithas Cymru ar ochr y cantorion yn hytrach nag ochr y beirdd fel yr ydym ni yn edrych ar y beirdd heddyw.
Y GLER
Arweinia hyn ni at y "gler," oblegyd y mae'r "gler" fel cwdyn y saint yn ddiweddar, a phob cerddor iselradd yn cael ei daflu iddo. Ysgrifennwyd llawer ar y "gler" yn ddiweddar, ond y mae'r ddau sylw hyn yn cynwys mer y cwbl:
"I. Yn sicr dyma'r gair (h.y. Ffr. cler o'r Llad. cleri, clerici) roddodd 'cler' yn Gymraeg." (Yr athro I. Williams yn D. ap Gwilym, td. LVI.)
"II. Of inferior status as they were, according to Welsh Law, the productions of the Clerwr and Teuluwr