Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

berthynas a'r "cler" (beirdd) o gwbl. Yn RBP. td. 86, 37, ceir hyn:

"Mal seth uab adaf ydif dyvi pan aeth y baradwys wiwdwys wedi. A dilyn ol cler...yw vireinllys dec o vor enlli."

Y mae'n amlwg nad "cler" (beirdd) yw hyn. Cofier i Seth fynd ar arch ei dad i chwilio am "Olew'r Drugaredd" i Baradwys goll. Ni wyddai Seth y ffordd, ond cawsai orchymyn i ddilyn ol traed ei rieni. Yr oedd Adda wedi cefni ar Eden er's oesoedd, ond yr oedd ol ei draed yn amlwg bob cam o'r ffordd, ni thyfasai dim yn ol eu traed oherwydd eu pechod, ac yr oedd yn hawdd felly ddilyn y llwybr. Y mae yn ymddangos felly mai yr hen Saes. Cler h.y. clear (amlwg) sydd yma. Tebyg yw RBP. td. 86, 1, menestyr cler mywn ystyr clot; cler Saes. (enwog) sydd yma eto. O'r tu arall ceir: RBP. 86, 26, "cler clorya ireitlyt," h.y. clerks (?) with their wax writing tablets (?) Os felly "cler" fel clerks Lloeger ydyw yn hytrach na cler Ffrainc: tebyg eto ydyw RBP. td. 157, 8, y glerwr gyda gloryeu newyd. Nid beirdd o un math oedd y rhai hyn mi goeliaf. O ba le y daeth y gair "cler" fel enw ar grwydraid? Ceir offeiriad crwydrol yn union fel un o'r Clerici Vagantes yn Llyfr Coch Herg. 1, td. 55. Yr oedd hwn yn canu a chardota pan oedd y Gler fel mwyar Medi yn Ewrob, ond "ysgolhaig" yw enw'r Llyfr Coch arno. Sylwodd Dr Chotzen hefyd (td. 76) mai "Henri Ysgolhaig" yw enw Henri Beauclerc yn Gymraeg. Ceir y Gler yn Llyfr Ancr "oe holl ynni...yn gwassanaethu y diawl" (td. 40) lle y saif "cler" am joculatores y Lladin. Yn A.L. II, td. 777, 871, ceir y gair joculator ddwywaith, ond nid "cler" geir am dano yn y Gymraeg, eithr "kerdawr." Ar dd. 785 ceir hyn: "kerdorion, h.y. ministralibus iocula- toribus, i.e. kerdorion de aliena patria dum expectant donaria sua." Ar dd. 868 fel hyn: "kylch...datur ministralibus joculatoribus id est kylch kerdorion de aliena terra, dum expectant donaria sua." Pe buasai y crwydriaid dieithr hyn