Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn adnabyddus fel "Cler" neu Clerici Vagantes, y mae'n ddirgelwch i mi na cheid "Cler" yn y fan hon. Cerddorion, a gwyr Cerdd Arwest, yw yr enw geir arnynt drwy'r amser. Dywed yr athro I. Williams yn D. ap Gwilym, td. LVI ar ol Du Cange mai'r un yw'r Goliardi, y Bufones (buffoon) a'r Joculatores (jugglers). Dyna'r peth cyntaf ddywed Du Cange, y peth nesaf at hynny ganddo yw nad oedd y Clerici i fod yn Joculatores.

Yn llythyr Eisteddfod Caerwys 1594 (Reports, I, td. 293) dywedir fel hyn: "Masters or doctors and other degrees... distinguished from loyterers and drones." Onid y drones hyn yw y "cler"? Y mae i drone ystyr gyfyngach heddyw na chynt, ond pery drone y "bibgod" (bagpipe) i gadw un or hen ystyron. Yr oedd y cerddorion yn heidio o fan i fan, ac wedi mynd yn bla ar y wlad. Galwai'r Gwyddyl hwy yn damsluag neu tromsluag, h.y. y trymlu oblegyd yr oeddynt fel pla lindys ar y wlad ag y colynnu pawb fel y cler llwyd. Cwyna'r Saeson hefyd am y gadlings oedd yn dilyn llys Lloeger o fan i fan a'r un yw gadling a'r gadfly, er mai ystyr gad yw cydymaith. Enw arall ar y Gler oedd "rhodwyr": "roddwyr neu gler y dom... Rodiav neu Gyrwydraw" gwel Reports, 1, td. 1022; S. D. Rhys, td. 301. Pe daethai "cler" o'r gair Ffreng. cler, neu o clerici, onid ystyr "clera" fyddai to act the buffoon? ond ei ystyr yw canu a chardota.

Pa ystyr sydd i "bon y gler"? Gellid tybio oddiwrth Anwyl mai yr un peth yw "cyff cler" a "bon y gler," ond camgymryd "bon" (stock) am "bon" (bond) hen ffurf ar band ydyw hynny. Nis gwn ai digwyddiad ai peidio yw, ond fe geir muscis (cler) am musis (cerddorion) mewn can Lladin: "aed Homer i fyw gyda'i gler" (gwel Anglia, Beiblatt, 1928, td. 135). Fe geir hefyd yr unigol "clerwr," "clerddyn" a'r lliosog "cleroedd," "clerwyr" (gwel RBP. 1261, 9, 1272, 14, 1281, 30, 1415, 10, 37, etc.).

Am fywyd y Gler, ceir darlun da yn "Iockyn Du Mab Ithel Grach" yn RBP. I, td. 1358—9. A cheir, wrth reswm, "Llyfr Clera" Rhys Cain yn Llsg. pen 178 er fod Angharad