Llwyd yn dweyd iddo gael ei losgi [Cam. Jour. III, 123]. Darllener y rhai hyn yng ngoleuni hunangofiant y Thomas Platter hwnnw aned yn Vespertal yn yr Yswisdir yn 1499, a Hodoiporikon (llyfr Crwydrin) John Butzbach (1478—1526) —dau Glerwr yn adrodd hanes eu bywyd wrth glera o ddydd i ddydd. [Gwel Messer, Paedagogik, td. 112 sqq.] Fe geir drefn newydd am y rhai oedd yn rhydd iddynt glera yn S. D. Rhys, td. 297, 301. Nid offeiriaid o un math yn y byd oedd y gler ond dynion dall a disgyblion cerdd.
Nis gwn i faint o enwau sydd ar y gwyr hyn yng Nghymru, y maent yn llu, er nad mor lliosog a enwau y minstrel gan Grossmann ychwaith. Ceir y "menestr" a'r "gwallofiad " a'r "disteyn" yn eu plith, ond cododd y rhai hyn yn uwch na'r Gler. Panyw Llyfr Ancr yn son am y croessan a phutain" meddwl am y Gler yr oedd, ond pan fyddis yn darllen hynny byddis yn dilyn y Geiriaduron ac yn edrych ar "putain" fel cyfystyr a prostitute. Nid felly yr oedd, eithr cyfystyr a'r Saesneg harlot oedd. Enw ar y dosbarth isaf o gerddorion oedd harlot yn ol Grossmann, td. 11, ac y mae herlodes yn air parchus yn y Beibl Cymraeg. Yn ol Prompt. Par. td. 263, ystyr Joculator oedd Iuguler, Gesticulator, a Harlott. Dywedir (Percy's Reliques, td. 18, 48) ddarfod i Iarll Caer roddi awdurdod i De Lacy gynt dros "Minstrels and Harlots." Yn Mimus, 11, 448, gelwir "Histriones" yn "Praepositi Meretricum."