Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dwy ffynnon ddyfnion ddiofnwaith,—radol,
A redan ar unwaith;
Ac i'w galwyd, deg eilwaith,
Dwfwr dwy, diofer daith.[1]
Rowland Sion o'r Pandy.

Serchog ddyfrog ddaufryn—llawn tegwch,
Llyn Tegid, gyferbyn;
Rhwyddgar le'r hawddgar lyn,
Mewn mur panlle mae môr Penllyn.
David Evans

Tre'r Bala brofìa ger bron,—tre gannaid,
Trwy gynnal prydyddion;
Tref enwog tyrfa union,
Mynwes aur am hyn o son.

Tre Rhirid ddilid dda lon,—Flaidd arglwydd,
Floedd eurglod ei ddwyfron;
Gwyrdd arail i gerddorion,
Iraidd gre ar ddaear gron.

Tre Degid enwid union—gardd ganu,
Gerdd Gwynedd, gymdeithion;
Y gân irwydd, gain aeron,
Swydd iawn hedd, sy heddyw'n hon.

Tre Benllyn, gwiwlan galon,—ardderchog
Urdd archiad brodorion,
Rhagorol dan y goron
I hulio cerdd Helicon.

Tre Uwchlyn gyfun gofion,—o bur ddawn
Aber-ddysg athrawon

  1. Cyfeiria'r beirdd at gam esboniad ar y gair Dyfrdwy sef "dwfr dwy" o herwydd ei bod yn tarddu o ddwy fynnon ar y Garneddwen. Ond "dwfr dwyf," sef dwfr dwyfol, yw'r wir ystyr. Addolid yr afon hon gynt.