Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Drysni a meini lle mynnir,—a choed
A chydig weirglodd-dir,
Puraf ardal porfardir,
Lleiat yw'r dorth llafur dir.

Coedydd a derwydd llawn dail,—oer loches
Ar lechwedd, yw'r adail;
Gwael gewyll serfyll eu sail,
Dyrys-gae a drws gwiail.

Galwad sydd yn gyhoeddus—i wemi
Gwr enwog a pharchus;
Nid oeddwn Frytwn, a'i frys,
Llaw ddinerth, yn llwyddiannus.

Gofalon ddigon a ddug—achosion,
A chwysu gan ddiffyg,
A gofal fel pel mewn pyg,
Wr ceulus yn mrig helyg.

Mae'r enw, er mor anial—y lle
A'r lluest cyfartal,
Fel cerbyd ar ergyd âl,
Wawr groendew ar y growndwal.

Un o'r mân raian[1] a rodd—yr enw,
A'r annedd a'i cafodd;
Cai ar gân od yw anodd
Dull ei faint, deall ei fodd.

Mae naw deg yn myn'd o'i ogylch,—troedfedd
Tro edef o'i amgylch;
Llawn iawn gorff llinyn ei gylch
Ef yw eurgain ei fawrgylch.

Uchder o nifer yn wir—tros ethol,
Tri seithwaith a rifir,

  1. Cymer y Graienyn ei enw, meddir, oddi wrth faen anferth sydd ar y tir.