Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iv. Y FARN FAWR[1]

Duw, er mael dyro i mi
Hwyl union o'th haelioni;
Par fywyd, pura f'awen,
Addwyn yw hi, y ddawn hen,
I wau gwiwdeg we gadarn
Yng nghylch y dydd y bydd barn.
Hwn yw'r dydd sydd yn neshau
Draw eisoes wrth y drysau;
Dydd echrys, arswydus son,
Niwlog i annuwiolion;
Dydd chwerwedd dialedd diluw,
Dydd blinder, a digter Duw;
Llid oer naid, fal lleidr y nos,
Mynegwyd mae yn agos;
Dydd o brofiad ofnadwy,
Diwedd mawr, ni bu dydd mwy.
A phwy wyr ai'r hwyr, er hyn,
Y dechreu amser dychryn?
Cof ofnog, ai y cyfnos?
Cynnil nawdd, ai canol nos?
Ai ar y wawr, ddarfawr ddydd?
Cwyn wael ddwys, ai canol-ddydd?
Geirian Naf sy'n gwiriaw,
Goreu dyst, mai gwir y daw;
Gair Iesu mor gu a gaf,
Iach helaeth, pam nva choeliaf?
Daw i bob parth ar wartha
Drwg di-rôl, duwiol a da;

  1. Codwyd y cywydd hwn o un o ysgriflyfrau Rowland Huw. Y mae'r hen fardd wedi rhoddi cywydd ei ddisgybl gyda chywydd ar yr un testyn gan William Wynn, a chydag un o gywyddau Goronwy Owen.