Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

ARDAL dawel, ac ardal lenyddol a darllengar, yw ardal y Bala—Saif y Bala ei hun ar gwrr dau blwyf, sef Llanfor a Llanycil. Ohoni, dros Lyn Tegid, gwelir dau blwyf arall, sef Llangower a Llanuwchllyn. Pumed plwy Penllyn yw Llandderfel. A'r Bala yw’r man cyfarfod Yn y gyfrol hon, ni roddir gwaith beirdd yr ardaloedd cylchynol. Ni roddir gwaith beirdd Llandderfel, megis Bardd y Brenin, Huw Derfel, a Dewi Hafesb. Ni roddir dim o waith beirdd niferus Llanuwchllyn, megis Fychaniaid Caer Gai, Sion Dafydd Las, ac Ap Fychan. Cyfyngir y gyfrol i feirdd anwyd yn y Bala, fu’n byw ynddi, neu fyddent beunydd yn ei heolydd. Y mae i’r Bala lawer o hanes. Y mae ci Llyn Tegid, meddir, yn cuddio tref hŷn, a foddwyd am ei phechod. Ỳ mae amlder y blaenau saethau cerrig o’i chwmpas yn dwyn ar gof gyfnodau hela a rhyfela. Y mae ei Thomen, yn ôl pob tebyg, er y cyfnod Rhufeinig o leiaf. Yn yr hen ramantau, cysylltir hi ag enw Goronwy Befr ; ac y mae Aber Gwenwynfeirch Gwyddno, lle tlws, teilwng le i bair Ceridwen, ar lan y llyn gerllaw. Yr oedd ynddi gastell yn amser y tywysogion; a chan ei bod yn sefyll ar derfynau Gwynedd a Phowys, bu llawer o ymladd o'i hamgylch. Cafodd siarter gan yr Edwardiaid, ond mae'n debyg na fu erioed yn rhyw annibynnol