Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'r Arglwydd, pen welodd, mewn dig a'i melldithiodd,
A gormod a labrodd i lwybrau.

A thithe gyfflybest y Protestant gonest
I Gain oedd mewn gorchest i ymgyrchu at bob drwg,
A chwithe'r gwyr ffeilsion i Abel fwyn wirion,
Oedd berffeth o galon a golwg.

'Rwy'n tybio i ti hefyd am hyn gamgymeryd,
Nid oes neb o'r hollfyd a'i fywyd heb fai,
Er bod rhai a fynnen, i'w cyfiawnhau i hunen
Bob math dan'r un wialen a welai.

Dy blaid di dy hunan, rwy'n deall yrwan,
Yw Cainied gwyllt aflan a ddweydan yn dda;
Er teced ych geirie, prun ohonochi'n unlle
Pan ddwedo fo'r gore, y gywira?

Rych chwi, rydw i'n tybied, ar ddull Phariseed,
Yn cyfiawnhau'ch gweithred er gwaetha y gwaith,
Mae mwynder ych tafod yn rhwystro'ch adnabod,
Er bod ar y gwaelod ddrwg eilweth.

Pwy sydd heb i feie? 'Rwy fi yn cyfadde
Fod pawb ohonom ninne a'i fryche'n i frest,
Wrth waith y mae barnu pwy sy amla'n troseddu,
Na byddwch chwi wrth hynny'n rhy onest.

Os Cora a'i wyr cecrus a droe'n erbyn Mosus,
Mewn rhyfel maleisus drwy farus daer fodd,
Rhyw rai o'ch gwyr chwithe, pan gowsoch chwi'r cyfle,
Yn ffals ych calonne a'i cyflawnodd.[1]


  1. Num. xvi.