Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O WLAD BELL.[1]
Cywydd a anfonwyd gan Huw Gruffydd (gynt o Lwyn y Brain) o America i Gymru, i annerch ei berthynasau ac i ddangos ansawdd y wlad (gwedi ei ddiwygio o amryw feiau).

EICH annerch, draserch drwsiad,
Dewr ynglyn i dir y ngwlad,
Gwlad Gamber haelber yw hon,
A da onest ei dynion;
Llyma'r wlad lle, a mawr lwydd,
Mae hiraeth i'm o'i herwydd,
Ac am ddynion mwynion mau,
A llesol gyfeillesau,
A cheraint fwynwvch araith,
Caredig enwedig waith;
A gorchmynion wiwlon wedd,
Dewr gennad, i dir Gwynedd,
Fy nghyfarch nid anghofia
Fy anwyl fam ddinam dda,
A'i hwyr bychan mwynlan mau,
Gwan iawn, fy machgen innau;
Dymunais a hoffais hyn
Allu weled Llywelyn,
Am ei weled addfed wyf,
Naws galar, nes y gwelwyf,
Amynedd rwy'n dymuno,
Dewised, cadwed mewn co
Drwy burdeb undeb iawn-dasg
Ofni Duw o fewn ei dasg;
A'm brawd Dafydd celfydd call,
A'i wraig dda rywiog ddeall,

  1. Codwyd y cywydd hwn o lyfr yn llawysgrif Rowland Huw o'r Graienyn. Aeth William ap Robert Saunderson a'r llyfr hwnnw i'r America tua 1849; boddodd yn afon Alabama, ac aeth ty ei weddw (a'r llyfr ynddo) ar dân