Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Os cariwn fuchedd santedd,
A meddwl am yn diwedd,
Cawn goron i drugaredd,
Drwy amynedd bawb. Amen.
Duw Ion a'th rad, Duw un a thri,
Y cadarn dŵr, Duw cadw di,
A'th law rhagorol ffrwythol ffri
I foli yn 'glwysi 'n gwlad;
Rhag i'n gelynion greulon gri
Yn Lloegr hon i llygru hi,
I fyny dal d' efengyl di,
I'n llenwi a phob gwellhad.
—JOHN CADWALADER[1] a'i gwnaeth.
CLYW FEINIR.
Tôn—GWLEDD ANGHARAD."
CLYW, feinir eirwir arab,
Fwyna'n fyw, a'r lana o liw;
Howddgara erioed a geres
Wyt gynnes ddynes Dduw ;
Dy howddgar bempryd tirion,
Lliw hinon ha, a'm gwnaeth i'n gla
O'th gariad, leuad loweth,
Wen eneth, beth a wna?
Mae serch a chariad ffyddlon
Dan fy nwyfron union i,
Aeth ffansi gre yn llwyr o'i lle,
Ers dyddie, di wyddost di;
- ↑ Yr wyf yn meddwl mai brodor o'r Bala oedd John Cadwaladr. Bu yno 'n byw, ac acth oddiyno i Langwm yn athraw ysgol