Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mis Chwefror oer dymor rhoed ar i elor wael.
Gwlad seintie y fo i ninne yn gartre gore i'w [gael.
—ARTHUR JONES O LANGADWALADR[1] a'i cant.


MARWNAD ANTARLIWT.
Tôn—FFARWEL Y BRENIN."

DOWCH gymdeithion haelion heleth.
Mewn clwy dygyn i'r cla'digeth,
Ni fedra i eto mo'r bodloni
Wrth glawdd y mynydd gladdu moni.
Fe ddaeth ati friw marwoleth,
Fel y daeth i'w holl genhedleth,
Drwy hynod hedd torrwn fedd yn haeledd i'w hulio,
Yn y graian rhown hi 'n gryno,
Ar ben ymdaith heb un amdo,
Ni wnaeth y chweryddiaeth ond l'esmeirio,
Mi wn y cyfyd hi atom ni eto;
I ganlyn hon rydw i'n llon a chalon wych heleth,

Mi fynnwn i chiwrio mewn goruchafieth,
I gael llawenydd dedwydd odieth.

  1. Bu Arthur Jones farw yn 1758 yn 56 oed. Y mae yn y "Dewisol Ganiadau" farwnad iddo, o waith Jonathan Hughes, "Marwnad o goffadwriaeth am y diweddar fardd canmoladwy Arthur Jones o'r Gyldini, clochydd Llangydwaladr; i'r hwn y bu claddedigaeth o wrthrych galarus iawn, canys claddwyd ef. bedyddiwyd iddo blentyn, a rhyddhawyd ei wraig yn yr eglwys ar yr un amser." Sonnir "am dlws bwnc ei adlais bêr," am ei ddysg, am ei lawysgrif am ei areithyddiaeth hyawdl yn Gymraeg a Saesneg. Gwladwr doeth, gwiw lediwr dysg." oedd hefyd. Bu a fynno lawer ag interliwdiau,—
    Dyriau gwych da roe gynt,
    Defnyddiol a dwfn oeddynt,"