Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyddai wedi’n disgyn ar HMRC beth bynnag, fel yn ymwneud â threth incwm yng Nghymru’n gyffredinol, yn cael eu pasio ymlaen.

Effaith y gyfradd treth incwm Gymreig ar drethdalwyr a busnesau

42. Os cyflwynir y gyfradd Gymreig, bydd HMRC yn ymgynghori ar nifer o faterion yn ymwneud â gweithrediad manwl y gyfradd treth incwm Gymreig. Bydd hwn yn pwyso ar gasgliadau ymarferion ymgynghori tebyg ar gyflwyno cyfradd treth incwm yr Alban, a arweiniodd at gyhoeddi Nodyn Technegol HMRC[1] ym mis Mai 2012. Er mwyn lleihau’r beichiau gweinyddol ar fusnesau ac unigolion ar draws y DU, byddai HMRC yn disgwyl i'r rheolau ar gymhwyso'r cyfraddau treth incwm yng Nghymru ac yn yr Alban fod yr un fath (oni bai fod rhesymau da dros eu trin yn wahanol).

43. Mae’r Asesiad o Effaith (IA) sy’n cyd-fynd â Bil Cymru’n cynnwys asesiad o effaith y gyfradd treth incwm Gymreig newydd arfaethedig.

Diffiniad o drethdalwr Cymreig

44. Byddai’r gyfradd treth incwm Gymreig yn cael ei chodi ar drethdalwyr sy’n byw yn y DU ac a ddiffiniwyd fel trethdalwyr Cymreig; rhai lle mai Cymru yw eu cysylltiad agosaf. Diffinnir cysylltiad agos â Chymru fel rhywun sydd yn byw ond yng Nghymru neu, ar gyfer unigolion gyda mwy nag un man preswyl, sydd â’u prif gartref preswyl yng Nghymru am gyfnod hwy na'r un rhan arall o’r DU mewn blwyddyn dreth. Yn ogystal, bydd Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli etholaeth yng Nghymru yn y Senedd neu aelod sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop hefyd yn drethdalwyr Cymreig. Llog a chosbau

45. Un o nodweddion presennol y system dreth yn y DU yw codi llog ar drethi a delir yn hwyr. Rhaid i HMRC dalu llog ar ordaliadau treth a chodi llog ar daliadau hwyr. Oherwydd y byddai Llywodraeth Cymru’n gallu gwario trethi sydd wedi eu darogan, Trysorlys y DU ac nid Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am reoli effaith unrhyw ordaliad treth neu dreth a delir yn hwyr. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i Lywodraeth Cymru gyda rheoli ei chyllid. Felly, ni fyddai taliadau llog yn cael eu cynnwys fel rhan o’r refeniw a fyddai’n cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru. Byddai hyn hefyd yn symleiddio’r ochr weinyddol.

Er enghraifft, lle byddai rhandaliad wedi’i wneud, ni fyddai angen

  1. Technote Scot Tax Rate