Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfrifyddu Ychwanegol ar gael i roi tystiolaeth i’r Cynulliad ar sut oedd HMRC yn gweithredu’r gyfradd Gymreig.

Effaith ar adrannau eraill o Lywodraeth y DU

51. Os yw’r Cynulliad yn dewis amrywio’r gyfradd treth incwm Gymreig fel bo'r cyfraddau cyfunol yng Nghymru'n wahanol i'r cyfraddau ar draws y DU, gallai hyn effeithio ar bolisïau ehangach Llywodraeth y DU lle mae anghenion unigolion yn cael eu cyfrifo net o dreth incwm, fel budddaliadau cysylltiedig ag incwm, gan gynnwys y Credyd Cynhwysol newydd. Byddai darlun mwy llawn o’r effeithiau posibl hyn yn cael ei greu gydag adrannau perthnasol o Lywodraeth y DU, wrth nesáu at refferendwm ac wrth i bolisi gael ei ddatblygu. Lle gallai gwahanol gyfraddau treth arwain at fwy neu lai o rwymedigaethau i Lywodraeth y DU, glynir wedyn at yr egwyddor a nodir yn y polisi Datganiad Cyllid sef ‘y corff y bydd ei benderfyniad yn arwain at y gost ychwanegol fydd yn cwrdd â’r gost honno’. Byddai HMRC ac adrannau perthnasol eraill yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar faint a goblygiadau unrhyw gostau o'r fath.

Addasu’r grant bloc yng nghyswllt treth incwm

52. Os gweithredir y gyfradd treth incwm Gymreig yn dilyn refferendwm, mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad Comisiwn Silk y dylid addasu'r grant bloc drwy ddefnyddio'r dull tynnu wedi'i fynegeio a gynigiwyd yn wreiddiol gan Gomisiwn Holtham. Fel y nodwn isod, mae’r dull hwn yn helpu i gynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru ac yn gwarchod Cymru rhag effeithiau ledled y DU y byddai Llywodraeth y DU mewn sefyllfa well i’w rheoli, gan sicrhau y bydd cyllid sicr a sefydlog yn dal i fod ar gael i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd manylion gweithredu’r system hon yn cael eu trafod â Llywodraeth Cymru.

53. Mae dwy elfen i'r dull hwn - addasiad blwyddyn gyntaf ac yna mynegeio'r swm hwn yn erbyn twf sylfaen drethi gyfatebol y DU (hy, incwm di-gynilion a di-ddifidend trethadwy) i benderfynu’r addasiad mewn blynyddoedd i ddilyn. Drwy fynegeio yn erbyn y sylfaen drethi yn lle refeniw trethi neu gyfanswm incwm, mae Comisiwn Silk wedi cydnabod bod hyn “yn ymgorffori’n awtomatig yr egwyddor o ‘ddim

niwed’" fel y gwneir hefyd yn yr Alban[1]. Mae hyn oherwydd y bydd

  1. Roedd y cymal ‘dim niwed’ ym Mhapur Gorchymyn Bil yr Alban yn seiliedig ar ddefnyddio dull gwahanol o addasu’r grant bloc, dull na fyddai’n awtomatig wedi ymgorffori’r egwyddor o ‘ddim niwed’. Yna, cytunodd lywodraeth y DU a llywodraeth yr Alban i ddefnyddio’r dull mynegeio, fel y byddai’n digwydd yng Nghymru.