Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sylfaen drethi'r DU yn adlewyrchu penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ar drothwyon, lwfansau a gostyngiadau. 54. Cyn gweithredu’r dull hwn, mae’r Llywodraeth hefyd wedi derbyn argymhelliad Comisiwn Silk i gael cyfnod pontio “i helpu i reoli trosglwyddo risg”. Mae'r Llywodraeth yn disgwyl i'r cyfnod pontio hwn bara am ddwy neu dair blynedd. Byddai’r trefniadau grant bloc yn y blynyddoedd pontio hyn yr un fath ag yn y flwyddyn gyntaf ar ôl pontio, ac eithrio heb broses cysoni diwedd blwyddyn.

Blynyddoedd pontio

55. Yn ystod y blynyddoedd pontio, byddai’r addasiad i’r grant bloc yn cael ei benderfynu yn ôl faint o refeniw trethi a gynhyrchwyd gan gyfradd treth incwm Gymreig o 10c. Hwn yw’r swm treth incwm a fyddai’n cael ei fforffedu gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i leihau’r prif gyfraddau treth incwm o 10c yng Nghymru. Prif ganlyniadau hyn yw:

  • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd o 10c yn ystod y blynyddoedd pontio hyn, ni fydd unrhyw effaith ar ei chyllideb o’i gymharu â’r trefniadau presennol.
  • Drwy osod cyfradd o 11c neu 9c, er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru gynyddu (gyda’r naill) neu leihau (gyda'r llall) ei chyllideb o’i gymharu â’r trefniadau presennol, oherwydd byddai’r addasiad i’r grant bloc yn dal yn seiliedig ar y 10c a fforffedwyd gan Lywodraeth y DU, h.y. mae'r gyfradd a bennir gan Lywodraeth Cymru'n newid ei refeniw trethi ond nid yw'n effeithio ar faint yr addasiad i'r grant bloc.
  • Ni fyddai unrhyw risg yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod pontio hwn, naill ai o ran twf y sylfaen drethi yng Nghymru na rheoli unrhyw wall darogan. Byddai’r ddwy risg hon yn cael eu trosglwyddo’n rhannol i Lywodraeth Cymru ar ôl y cyfnod pontio.

56. Bydd y refeniw trethi a gynhyrchir gan y gyfradd treth incwm Gymreig yn cael ei ddarogan gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ac yn cael ei dalu i Lywodraeth Cymru. Mae dau senario ar gyfer addasu’r grant bloc:

  • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd o 10c ym mlwyddyn 1, bydd darogan yr OBR yn penderfynu faint o