Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

refeniw trethi a delir i Lywodraeth Cymru a hefyd faint a dynnir o’r grant bloc. Felly ni fydd unrhyw effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru o'i gymharu â'r trefniadau presennol.

  • Os yw Llywodraeth Cymru’n gosod cyfradd wahanol i 10c ym mlwyddyn 1, bydd y refeniw o drethi Cymreig fydd wedi’i ddarogan gan yr OBR (yn defnyddio'r un gyfradd ag a osodwyd gan Lywodraeth Cymru) yn dal i gael ei dalu i Lywodraeth Cymru ond penderfynir yr addasiad i’r grant bloc gan ddarogan ar wahân o faint a refeniw fyddai wedi cael ei gynhyrchu gan gyfradd o 10c. Drwy osod cyfradd wahanol i 10c, gall Llywodraeth Cymru felly newid ei chyllideb (i fyny neu i lawr) o’i gymharu â’r trefniadau presennol.

57. Bydd defnyddio’r refeniw a gynhyrchir gan y gyfradd Gymreig i benderfynu’r addasiad i’r grant bloc yn golygu na fydd y risg ynghylch twf y sylfaen treth incwm yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru dros y cyfnod pontio. Felly hefyd, oherwydd nad oes cysoni diwedd blwyddyn yn ystod y blynyddoedd pontio, bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cadw’r risg ddarogan.

58. Bydd y ddwy risg yma'n cael eu trosglwyddo’n rhannol i Lywodraeth Cymru ar ôl y cyfnod pontio, y risg ddarogan yn y flwyddyn gyntaf ar ôl pontio a’r risg dwf yn yr ail flwyddyn ar ôl pontio.

Y flwyddyn weithredol gyntaf (ar ôl pontio)

59. Yn y flwyddyn weithredol gyntaf ar ôl pontio, bydd y trefniadau grant bloc yr un fath ag yn y blynyddoedd pontio heblaw y bydd proses diwedd blwyddyn i ail-gyfrifo’r refeniw o drethi Cymreig a’r addasiad i’r grant bloc yn defnyddio ffigurau gwirioneddol (yn hytrach na darogan). 60. Bydd y broses diwedd blwyddyn hon yn trosglwyddo cyfrifoldeb rhannol am reoli’r gwall darogan i Lywodraeth Cymru. Bydd yn cymryd tua 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol unwaith fydd HMRC wedi casglu digon o wybodaeth, yn benodol gan drethdalwyr hunanasesiad. Bydd y broses hon yn golygu ail-gyfrifo’r refeniw a gynhyrchir gan y gyfradd Gymreig a'r addasiad i'r grant bloc, yn defnyddio ffigurau gwirioneddol.

61. Mae dau bwrpas i’r cysoni diwedd blwyddyn hwn:

  • i sicrhau’r man cychwyn cywir ar gyfer mynegeio yn yblynyddoedd i ddilyn;