Creu trethi datganoledig newydd
70. Mae Bil Cymru’n diffinio treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yng Nghymru fel ‘trethi datganoledig'[1]. Fodd bynnag, hefyd drwy’r Bil gellid dynodi trethi pellach mewn ffordd debyg drwy is-ddeddfwriaeth. Gellid defnyddio’r pŵer hwn i ddau bwrpas:
- Fel y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno trethi newydd penodol yng Nghymru, gyda chytundeb y ddau Dŷ Seneddol a’r Cynulliad; neu
- Fel y gallai Llywodraeth y DU ddatganoli trethi presennol pellach neu drethi newydd y DU, eto gyda chytundeb y ddau Dŷ Seneddol a’r Cynulliad.
71. Byddai gallu cyflwyno trethi newydd yng Nghymru’n cynnig cyfrwng polisi newydd y gallai Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i godi refeniw ychwanegol a / neu i effeithio ar ymddygiad. 72. Bydd cynigion ar gyfer trethi newydd yn cael eu hasesu yn erbyn ystod o feini prawf, gan gynnwys i ba raddau allai’r dreth newydd:
- effeithio ar bolisi ariannol neu facro-economaidd y DU a / neu’r farchnad sengl;
- efallai beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth yr UE;
- cynyddu’r risg o osgoi trethu; neu
- creu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau a / neu unigolion;
- yn gyson â chyfrifoldebau datganoledig.
73. Yn gyson â’r broses a gyflwynir ynghyd â Bil yr Alban, byddai angen i unrhyw gynnig gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno treth newydd gynnwys manylion llawn am y canlynol:
- y sylfaen drethi (h.y. gweithgarwch trethadwy);
- amcan o’r refeniw a’r effaith economaidd;
- amcan o’r effaith ar refeniw’r DU neu ar y berthynas â threthi
ledled y DU;
- effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion (ân gynnwys
effaith ddosbarthiadol);
- ↑ Yn lle cael eu diffinio fel ‘treth ddatganoledig’, byddai’r dreth gyngor ac ardrethi busnes yn dod o dan ‘drethiant lleol’ a (chan ddibynnu ar refferendwm) byddai’r gyfradd treth incwm Gymreig yn cael ei chreu o fewn system dreth incwm y DU ac yn cael ei gweinyddu gan HMRC.