Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
  • asesiad yn erbyn yr holl ddeddfwriaeth a chyfarwyddebau

perthnasol, gan gynnwys y Ddeddf Hawliau Dynol, rheolau’r UE ar Gymorth Gwladwriaethol, y Ddeddf Cydraddoldeb etc; a

  • cynlluniau casglu a chydymffurfio.

74. Mae’r meini prawf uchod ar gyfer asesu cynigion treth newydd yn cynnig fframwaith ar gyfer cynnal trafodaethau adeiladol. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu unrhyw gynigion o’r fath mewn ffordd amserol. Os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu, ar ddiwedd y broses honno, peidio â rhoi pwerau i’r Cynulliad i greu treth ddatganoledig newydd, bydd yn egluro ei rhesymau.

75. Fel y nodir yn ymateb y Llywodraeth i Gomisiwn Silk, disgwylir y byddai’r effaith ar grant bloc Llywodraeth Cymru wedi’i chyfyngu i gymhwyso egwyddor o ‘ddim niwed’. O dan yr egwyddor hon, byddai’r Llywodraeth yn addasu’r grant bloc ond pe bai disgwyl i dreth newydd yng Nghymru arwain at lai o refeniw i’r Trysorlys.

76. Os yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno treth newydd sydd ag elfen o gysondeb â meysydd datganoledig, bydd yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru i weld pa sgôp sydd i ddatganoli’r dreth honno.