Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

92. O fewn y trothwy cyffredinol, mae Trysorlys EM wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £125 miliwn y flwyddyn (o 2018-19 ymlaen). Ynghyd â’r cap cyffredinol, mae’r trothwy blynyddol hwn yn sicrhau bod y Llywodraeth yn cadw ei rheolaeth dros gyfanswm benthyca’r sector cyhoeddus ar draws y DU. [Os caiff elfen o dreth incwm ei datganoli i Gymru, byddai’r Llywodraeth yn adolygu’r trothwy blynyddol (a’r trothwy cyffredinol) gan ddisgwyl y byddai hyn yn symud at yr hyn (10 y cant o drothwyon DEL cyfalaf pob blwyddyn) a ddefnyddir yn yr Alban.]

93. O fewn y trothwyon cyffredinol a blynyddol, bydd Llywodraeth Cymru’n gallu benthyca at unrhyw ddiben cyfalaf[1] heb ganiatâd Trysorlys EM. Felly, byddai gan Weinidogion Cymru'r rhyddid a’r hyblygrwydd i benderfynu pryd a sut i fuddsoddi’n ychwanegol mewn seilwaith yng Nghymru i helpu i ddatblygu economi’r wlad.

94. Gall Gweinidogion Cymru fenthyca gan y NLF neu gan fanciau masnachol i ariannu eu gwariant cyfalaf. Mae Bil Cymru hefyd yn darparu y gallai Llywodraeth y DU newid y ffynonellau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru heb ddeddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft pe bai’n penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gallu dyroddi bondiau. Yn ddiweddar, dyfarnodd y Llywodraeth fod dyroddi bondiau’n gyson â phwerau a chyfrifoldebau ariannol Llywodraeth yr Alban fel y nodir yn Neddf yr Alban 2012. Mae’n barod i ystyried ymhellach a fyddai hyn yn briodol ochr yn ochr â’r pecyn o bwerau ariannol sydd i’w ddatganoli i ddechrau gan Fesur Cymru.

95. Cyn gweithredu pwerau benthyca cyfalaf newydd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau presennol ond mwy cyfyngedig[2] i symud ymlaen gyda gwelliannau i’r M4 (os yw’n dewis gwneud hynny). Rhaid i’r symiau a allai Llywodraeth Cymru eu benthyca dros y cyfnod hwn gael eu cymeradwyo gan Drysorlys EM. Mae’r trefniant hwn, felly, yn rhoi’r opsiwn i Lywodraeth Cymru ddechrau buddsoddi yn yr M4 cyn derbyn unrhyw refeniw o drethi datganoledig. Oherwydd bod hyn fwy neu lai’n rhoi mynediad buan i

Lywodraeth Cymru at ei phwerau benthyca newydd, bydd unrhyw

  1. Gwariant a fyddai wedi'i nodi fel cyfalaf yn Consolidated Budgeting Guidance
  2. Enillwyd y pwerau hyn pan ddaeth Awdurdod Datblygu Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru.