Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Bil Cymru yn y Senedd heddiw. Mae ein deddfwriaeth yn garreg filltir bwysig i Gymru, gan ddangos ymrwymiad y Llywodraeth i gryfhau datganoli yng Nghymru a swyddogaeth Cymru yn y Deyrnas Unedig.

Ym mis Tachwedd 2013 roedd y Llywodraeth wedi derbyn bron i bob un o’r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) yn ei adroddiad cyntaf. Mae Bil Cymru yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol i ddatganoli pecyn o bwerau benthyca a threthu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) a Llywodraeth Cymru. Bydd y pwerau hyn yn rhoi rhagor o ffyrdd i Lywodraeth Cymru allu tyfu economi Cymru, helpu Cymru i gystadlu yn y ras fyd-eang ag adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach. Yn hollbwysig, byddant hefyd yn cynyddu atebolrwydd ariannol y sefydliadau datganoledig drwy eu gwneud yn atebol am godi mwy o’r arian maent yn ei wario.

Mae’r Bil yn newid setliad datganoli Cymru mewn sawl maes, ac mae’r Papur Gorchymyn hwn yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch y trefniadau newydd. Yn benodol, mae’n egluro sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r mesurau ariannol sydd wedi’u nodi yn Rhan 2 o’r Bil. Mae’n disgrifio sut bydd y newidiadau deddfwriaethol yn gweithio’n ymarferol a’r newidiadau ymarferol sy’n angenrheidiol o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon. Carem ddiolch i Gomisiwn Silk am ei waith caled a’i ymroddiad wrth baratoi dadansoddiad mor fanwl o agweddau ariannol datganoli yng Nghymru, a’r Pwyllgor Materion Cymreig am graffu’n drwyadl ar fersiwn drafft Bil Cymru cyn y broses ddeddfu. Rydym yn ffyddiog bod cynnwys y Papur Gorchymyn hwn yn ateb cais y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am gynigion y Llywodraeth.

Bydd Bil Cymru, ynghyd â'r cynlluniau ehangach sydd wedi’u hamlinellu yn y papur hwn, yn cryfhau’r sefydliadau democrataidd yng Nghymru, yn gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru ac yn eu galluogi i gefnogi twf economaidd cryfach.

Y GWIR ANRH DAVID JONES AS
YSGRIFENNYDD GWLADOL
CYMRU

Y GWIR ANRH DANNY ALEXANDER AS
PRIF YSGRIFENNYDD I’R
TRYSORLYS