Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trefniadau rhynglywodraethol

96. Roedd ymateb y Llywodraeth i adroddiad Rhan I y Comisiwn yn cydnabod bod angen sicrhau bod y trefniadau sefydliadol a llywodraethu'n parhau i fod yn briodol wrth i newidiadau gael eu gwneud i bwerau ariannol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Yn benodol:

  • Mae'r OBR wedi cytuno i gais ffurfiol y Llywodraeth ei bod yn dechrau darogan trethi Cymreig yn Natganiad yr Hydref 2014 a phob chwe mis wedyn (ochr yn ochr â’r darogan ar gyfer trethi’r Alban). I ddechrau, bydd hyn yn cynnwys rhagolygon ar gyfer treth dir y dreth stamp, y dreth tirlenwi, y lefi ar agregau (y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei ddatganoli gan ddibynnu ar y penderfyniad mewn achos cyfreithiol yn llysoedd Ewrop) a’r gyfradd treth incwm Gymreig. Bydd yr OBR yn darogan refeniw o’r trethi newydd ar gyfer y SDLT a’r LfT unwaith fydd y trefniadau ar eu cyfer yn ddigon clir;
  • Bydd manylion am berthynas yr OBR â’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru’n destun trafodaethau pellach. Fodd bynnag, disgwylir iddi roi tystiolaeth o’i rhagolygon ar gyfer trethi Cymreig i'r Cynulliad. Os bydd Bil Cymru’n llwyddo i gael ei basio, bydd y Llywodraeth yn gweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu memoranda dealltwriaeth addas i gefnogi gweithredu a gweithrediad y pwerau newydd. I ddechrau, bydd hyn yn golygu trefniant rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatganoli, yn effeithlon ac effeithiol, y cyfrifoldeb am dreth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yng Nghymru; a
  • Yn gyson â’i rhaglen dryloywder, mae’r Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i wella’r wybodaeth fydd ar gael i helpu’r cyhoedd i ddeall beth sy'n digwydd ac i gynyddu atebolrwydd. Er enghraifft, am y tro cyntaf (mis Hydref 2013) mae HMRC wedi cyhoeddi dadansoddiad ar sail gwlad o’r trethi ledled y DU y mae'n eu casglu.

97. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cytuno â Llywodraeth Cymru i sefydlu pwyllgor Gweinidogol dwyochrog i oruchwylio’r gwaith o drosglwyddo’r pwerau ariannol hyn. Bydd yn seiliedig ar y Cyd-bwyllgor Trysorlys (yn yr Alban) ac yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ddwy lywodraeth. Un o’r blaenoriaethau cyntaf i’r Pwyllgor hwn fydd ystyried manylion pellach gweithrediad y trefniadau cyllidebol newydd, gan gynnwys yr addasiad i’r grant bloc a ddaw law yn llaw â datganoli trethi, a’r trefniadau rheoli arian parod.