Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai (HRAS)

98. Newidiodd Ddeddf Lleoliaeth 2011 y ffordd y caiff tai cymdeithasol eu hariannu yn Lloegr, er mwyn darparu mwy o bŵer ar lefel leol. Yn lle anfon incwm o renti i'r llywodraeth ganolog ac aros i weld pa gyfran fyddai’n cael ei dyrannu’n ôl pob blwyddyn, mae cynghorau’n cael cadw’r rhenti hyn a’u defnyddio’n lleol i gynnal eu cartrefi cymdeithasol. Mae hyn yn rhoi sail fwy sefydlog a rhagweladwy i gynllunio ar gyfer y tymor hir.

99. Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle mae system y Cyfrif Refeniw Tai'n parhau i fod yn ei lle. Mae darpariaethau yn Bil Tai (Cymru) Llywodraeth Cymru yn ceisio ei ddileu fel bod awdurdodau tai lleol yn dod yn hunangyllidol, gan roi mwy o hyblygrwydd iddynt wneud mwy i wella ansawdd eu tai presennol.

100. Effaith y darpariaethau perthnasol yn Bil Cymru fyddai hwyluso diwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru, drwy sefydlu sut fyddai trothwyon ar ddyledion Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru’n cael eu pennu. Bydd y Trysorlys yn cyflwyno pŵer newydd i roi cap ar faint o ddyled dai gyfunol y bydd yn bosibl i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ei chronni. Bydd y Trysorlys yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gosod a diwygio’r cap ar fenthyca. Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu faint o ddyled dai y gall pob Awdurdod Tai Lleol ei chael o fewn y cap hwnnw.

101. Drwy wneud hyn bydd Llywodraeth Cymru'n gallu gweithredu ei diwygiadau a sicrhau hefyd bod lefel gyffredinol y ddyled dai fydd gan Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru yn adlewyrchu sefyllfa ariannol gyffredinol a chynlluniau lleihau diffyg y DU.