Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fframwaith ariannu newydd i Gymru

1. Ers datganoli ym 1999, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) wedi cael ei ariannu’n llwyr bron gan grant bloc gan Lywodraeth y DU. Mae refeniw trethi ar draws y DU (gan gynnwys o Gymru) yn cael eu cronni’n ganolog, gyda chyfran yn cael ei hailddosbarthu i'r Cynulliad. Er bod gan y Cynulliad gyfrifoldeb a hyblygrwydd sylweddol i benderfynu sut i ddefnyddio’r arian hwn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu datganoli yng Nghymru, ychydig iawn o gyfrifoldeb a gafodd i ariannu ei wariant.

2. Yn 2011 sefydlodd y Llywodraeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn “Silk”) i edrych ar y trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru ac i argymell sut y byddai modd eu gwella. Daeth y Comisiwn i’r casgliad bod angen i’r Cynulliad gael mwy o atebolrwydd ariannol tuag at bobl Cymru ond bod angen cadw’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd o rannu adnoddau fel rhan o’r Deyrnas Unedig.

3. Roedd ymateb y Llywodraeth i adroddiad Rhan 1 Comisiwn Silk yn derbyn 30 o’r 31 o argymhellion (a wnaed i Lywodraeth y DU) yn llawn neu’n rhannol, gan osod allan ei chynlluniau i roi mwy o atebolrwydd ariannol i’r Cynulliad. Bil Cymru sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i ddarparu’r newidiadau hyn, ac mae’r Papur Gorchymyn hwn yn rhoi manylion pellach am weithredu a gweithrediad pwerau trethu a benthyca newydd y Cynulliad.

4. O dan y trefniadau newydd hyn, bydd y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'n cael ei chreu gan ddwy ffrwd ariannu ar wahân:

5. Bydd ffrwd ariannu newydd yn cynnwys refeniw o ardrethi busnes, trethi wedi eu datganoli (treth trafodion tir Gymreig a threth tirlenwi Gymreig) ac, yn amodol ar refferendwm, cyfradd treth incwm Gymreig. Gyda chaniatâd Llywodraeth y DU, gallai’r Cynulliad hefyd ddeddfu i gyflwyno trethi datganoledig newydd yng Nghymru. Byddai’r refeniw fyddai’n cael ei gynhyrchu o’r ffrwd ariannu hon, felly, yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan y Cynulliad.

6. Bydd yr ail ffrwd ariannu’n parhau i fod yn grant bloc gan Lywodraeth y DU ar sail fformiwla Barnett. Er bod Llywodraeth y DU yn cydnabod rhai o’r pryderon a leisiwyd ynghylch fformiwla Barnett, mae gan y system nifer o gryfderau. Rhennir adnoddau a risgiau ar draws y DU,