Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sy’n sicrhau bod gan y Cynulliad lefelau ariannu sefydlog i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae'r system hefyd yn syml, tryloyw ac effeithlon; gofynion hollbwysig ar gyfer unrhyw system ariannu. Blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw lleihau’r diffyg cyllid ac nid oes ganddi unrhyw gynlluniau i ddiwygio fformiwla Barnett cyn bydd y sefyllfa cyllid cyhoeddus wedi sefydlogi.

7. Fodd bynnag, roedd datganiad ar y cyd gan y Llywodraeth a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2012 yn sefydlu proses i adolygu lefelau ariannu cymharol ar gyfer Cymru a Lloegr cyn pob adolygiad o wariant, a lle bo’n darogan y bydd cydgyfeirio’n ailddechrau, y dylid trafod opsiynau i roi sylw i’r mater hwn mewn ffordd deg a fforddiadwy. Mae’r trefniadau trylwyr hyn, felly, yn sail gadarn ar gyfer symud at y fframwaith ariannu newydd i Gymru, gan gynnwys datganoli treth incwm (os hyn fyddai canlyniad y refferendwm).

8. Ynghyd â datganoli’r pwerau newydd hyn i godi trethi, bydd angen addasu’r grant bloc i adlewyrchu'r refeniw llai a fyddai’n llifo i Drysorlys y DU. Mae’r Papur Gorchymyn yn nodi cynigion manwl y Llywodraeth ar gyfer cyfrifo’r addasiadau, yn gyson ag argymhellion y Comisiwn. Er y bydd y dull o addasu’r grant bloc treth incwm yn gwarchod y Cynulliad rhag effeithiau macro-economaidd ehangach ‘ledled y DU’ y byddai Llywodraeth y DU mewn sefyllfa well i’w rheoli, bydd angen i Lywodraeth Cymru reoli unrhyw amrywiad yn y refeniw o drethi datganoledig. Felly, mae’r trefniadau ariannu newydd yn cynnwys dulliau i helpu Llywodraeth Cymru i reoli’r diffyg sefydlogrwydd hwn, gan gynnwys cronfa arian parod wrth gefn a phwerau benthyca presennol.

9. Bydd y pwerau trethu newydd hyn hefyd yn darparu ffrwd refeniw annibynnol i gefnogi benthyca cyfalaf. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd pellach i Lywodraeth Cymru benderfynu pryd a sut i fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn sbarduno twf economi Cymru. Cyn gweithredu’r pwerau benthyca cyfalaf newydd hyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau benthyca presennol, mwy cyfyngedig i gychwyn gwneud gwelliannau i’r M4. 10. Bydd cynlluniau’r Llywodraeth i ddarparu fframwaith ariannu newydd i Gymru felly’n grymuso a gwella atebolrwydd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru’n sylweddol. I sicrhau y gweithredir y newidiadau sylfaenol hyn yn effeithlon ac effeithiol, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno trefniadau llywodraethu newydd, gan gynnwys creu pwyllgor Gweinidogol rhynglywodraethol dwyochrog.