Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Datganoli ardrethi annomestig (busnes) yn llawn

11. Mae Llywodraeth y DU eisiau datganoli ardrethi busnes yn llawn i'r Cynulliad ym mis Ebrill 2015. Bydd manylion gweithredu hyn yng nghyswllt y system gyllideb yn cael eu trafod â Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar ddyddiad terfynol i ddatganoli’r dreth hon yn llawn.

12. Mae gan y Cynulliad eisoes gymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru[1], a gall basio cyfreithiau i ddiwygio neu ddisodli'r system bresennol. Felly nid oes angen darparu ar gyfer hyn yn Bil Cymru. Fodd bynnag, o dan y trefniadau presennol, nid yw’r refeniw a gynhyrchir yn effeithio’n uniongyrchol ar faint o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, pennir cyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar sail y gwariant sy'n cael ei ariannu gan ardrethi busnes yn Lloegr. Hynny yw, mae’r cyllid hwn wedi’i gynnwys yn y grant bloc sylfaenol ac mae Llywodraeth Cymru’n derbyn symiau canlyniadol Barnett lle mae lefel y gwariant awdurdod lleol a ariennir gan ardrethi busnes yn Lloegr yn newid. Felly, nid yw’r refeniw a gynhyrchir gan ardrethi busnes yng Nghymru’n effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. O ganlyniad, nid yw’r swm a gesglir ond yn effeithio ar faint o arian parod a drosglwyddir o Lywodraeth y DU.

13. Mae datganoli ardrethi busnes yn llawn, yn ôl argymhelliad Comisiwn Silk, yn golygu y bydd lefel y refeniw a gynhyrchir o ardrethi busnes yng Nghymru’n effeithio’n uniongyrchol ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Hynny yw, bydd Llywodraeth Cymru’n gallu gwario faint bynnag y codir gan ardrethi busnes yng Nghymru yn hytrach na faint a bennir gan ardrethi busnes yn Lloegr. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru’n elwa’n uniongyrchol o unrhyw dwf mewn ardrethi busnes ac yn rhoi cymhelliad pellach i ddatblygu’r economi.

Addasu'r grant bloc yng nghyswllt ardrethi busnes 14. Yn dilyn y cynsail a osodwyd pan gafodd ardrethi busnes eu datganoli’r llawn i’r Alban a Gogledd Iwerddon, bydd datganoli ardrethi busnes yn llawn yn golygu addasiad unwaith yn unig i grant bloc Llywodraeth

Cymru, gyda dwy elfen i hyn:

  1. Mae Pennawd 12 yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cynnwys “cyllid llywodraeth leol” yn y rhestr o bynciau y gall y Cynulliad ddeddfu arnynt. Mae hyn yn cynnwys ardrethi annomestig (busnes) a’r dreth gyngor.