Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi

15. Mae Bil Cymru’n darparu ar gyfer datganoli treth dir y dreth stamp (SDLT) a'r dreth tirlenwi (LfT) yn llawn. Mae hyn yn golygu y bydd gan y Cynulliad reolaeth lwyr dros benderfynu sut ac a ddylid trethu trafodion tir a gwastraff a waredir i safleoedd tirlenwi. Ni fydd y SDLF a’r LfT yn gymwys mwyach yng Nghymru a dyna pryd y cyflwynir unrhyw drethi newydd. Bydd lleihad cyfatebol yn y grant bloc i adlewyrchu’r pwerau newydd hyn i godi refeniw, rhoddir manylion am hyn ym mharagraff 26 isod).

16. Ar sail trafodaethau cychwynnol gyda Llywodraeth Cymru, y bwriad yw dirwyn i ben y trethi ‘ledled y DU’ sy’n berthnasol i Gymru, o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd y grant bloc yn cael ei addasu o’r pwynt hwn ymlaen, i adlewyrchu’r lleihad mewn refeniw y bydd Llywodraeth y DU yn ei dderbyn o'r trethi datganoledig hyn. Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar unrhyw drethi Cymreig newydd yn eu lle, yn amodol ar gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad. Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar ddyddiad terfynol i ddirwyn trethi’r DU i ben yng Nghymru.

Trethi Cymreig newydd

17. Bydd dyluniad y trethi datganoledig a sut y gweinyddir hwynt yn fater i’r Cynulliad ac i Weinidogion Cymru.

18. Mater i’r Cynulliad ac i Weinidogion Cymru fydd penderfynu sut y dylid casglu a rheoli’r trethi datganoledig. Mae Bil Cymru’n darparu bod HMRC yn gallu gweithredu’r trethi datganoledig ar ran Llywodraeth Cymru os yw hyn yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Byddai telerau trefniant o'r fath yn rhai i'w cytuno arnynt rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru.

Effaith datganoli ar drethdalwyr treth dir y dreth stamp

19. Bydd newid y baich cydymffurfio i drethdalwyr sy’n trosglwyddo tir yng Nghymru’n dibynnu ar ddyluniad y dreth ddatganoledig, sy’n fater i’r Cynulliad ei benderfynu ynghyd â Gweinidogion Cymru. Mae’r ffurflen SDLT bresennol eisoes yn nodi ym mha ardal awdurdod lleol y mae trafodiad tir yn digwydd ac, felly, bydd HMRC yn gallu nodi pa drafodion fydd y SDLT yn parhau i fod yn berthnasol iddynt. O ddyddiad y datganoli, ni fydd y ffurflen hon mwyach yn berthnasol i drafodion yng Nghymru ond bydd ei hangen o hyd, ac ni fydd angen ei diwygio, ar gyfer trafodion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.