Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

20. Efallai y bydd angen ffurflen dreth ar wahân ar gyfer trafodion tir yng Nghymru, gan ddibynnu ar ddyluniad y dreth a’r corff fydd yn ei chasglu. Mater i'r Cynulliad ei benderfynu, drwy weithio â Gweinidogion Cymru, fydd hyn. Nid oes rheswm mewn egwyddor pam ddylai’r baich cydymffurfio i drethdalwyr sy’n prynu un eiddo, mewn rhan benodol o’r DU, gynyddu. Bydd cyfres o reolau i Gymru, un i’r Alban ac un i Loegr a Gogledd Iwerddon. Mae'n bosibl y bydd rhai sy'n prynu eiddo neu dir o boptu i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn gweld cynnydd yn eu baich cydymffurfio - os felly bydd yn cael ei drin fel dau drafodiad, un lle byddai'n rhaid talu’r SDLT a'r llall lle byddai'n rhaid talu'r dreth Gymreig ar drafodion tir. Byddai’r gwerth yna’n cael ei ddosrannu ar draws y ddau drafodiad ar sail eu gwerthoedd cymharol. Yn ogystal, gallai rhai sy’n prynu sawl eiddo yng Nghymru, yn yr Alban ac mewn rhannau eraill o’r DU fel rhan o un trafodiad weld cynnydd yn eu baich cydymffurfio oherwydd gallai fod angen hyd at dair ffurflen dreth.

21. Oherwydd y codir y dreth ddatganoledig ar drafodion tir yng Nghymru, bydd yn effeithio ar unrhyw un sy’n dewis prynu eiddo yng Nghymru, p’un ai ydynt yn byw yng Nghymru, yn yr Alban neu yn rhywle arall. Yn ymarferol, bydd unrhyw gynnydd neu leihad yn y baich gweinyddol yn effeithio ar weithwyr trawsgludo a chyfreithiol proffesiynol sy’n gweithredu ar ran y partïon sy’n dewis prynu eiddo yng Nghymru, cost a allai gael ei phasio ymlaen i’r prynwr.

22. Mae'r ffurflen SDLT yn casglu data ar gyfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r system dreth ac ar gyfer gwaith cydymffurfio ehangach gan HMRC. O dan y Bil mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru, os bydd HMRC yn gofyn iddi, ddarparu’r data hwn yn y dyfodol ar drafodion tir yng Nghymru, o wybodaeth fydd yn ei meddiant. Bydd y VOA yn parhau i gyflawni ei swyddogaethau presennol yng Nghymru ar ôl datganoli’r dreth ar drafodion tir.

Effaith datganoli ar drethdalwyr y dreth tirlenwi

23. Nid yw’r ffurflen dreth LfT bresennol ledled y DU yn nodi lleoliad daearyddol y gweithgaredd sy'n cael ei drethu. Mae’n debyg y byddai angen ffurflen dreth ar wahân ar gyfer gwastraff i’w waredu mewn safleoedd tirlenwi yng Nghymru, gan ddibynnu ar ddyluniad y dreth a benderfynir gan y Cynulliad a pha gorff fydd yn gyfrifol am ei chasglu. Bydd y baich cydymffurfio ar weithredwyr tirlenwi yng Nghymru’n cael ei benderfynu gan y rheolau a bennir gan y Cynulliad a Llywodraeth