(a) gwybodaeth am yr ymarferwyr addysg sy'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol;
(b) adroddiad ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r cynllun blaenorol (yn achos pob cynllun ac eithrio'r un cyntaf).
(5) Wrth lunio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i'r awdurdod lleol—
(a) rhoi sylw i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;
(b) ymgynghori ar ddrafft o'r cynllun â'r canlynol—
(i) ei awdurdodau lleol cyfagos;
(ii) pennaeth pob ysgol a phennaeth pob ysgol feithrin a gynhelir y mae'n eu cynnal;
(iii) corff llywodraethu pob ysgol a chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae'n eu cynnal;
(iv) pennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;
(v) mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal, y person sy'n penodi'r llywodraethwyr sefydledig, ac os yw'r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;
(vi) Prif Arolygydd ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
(vii) yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
(viii) Comisiynydd y Gymraeg;
(ix) y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;
(x) Mudiad Meithrin Cyf (rhif y cwmni 02164058);
(xi) personau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
31Cyfnod cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg
(1) Mae pob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn cael effaith am gyfnod o 5 mlynedd, ac mae—
(a) y cyfnod cyntaf o 5 mlynedd yn dechrau ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a
(b) pob cyfnod o 5 mlynedd sy'n dilyn yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae'r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.
(2) Ond rhaid i bob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi'r camau y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd yn unol ag adran 30(3) dros gyfnod o 10 mlynedd.
32Cymeradwyo cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg
(1) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.
(2) Wrth gyflwyno'r cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg ar ffurf drafft, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a wnaed o dan adran 30(5)(b), ac ymateb yr awdurdod lleol i'r ymgynghoriad hwnnw.
(3) Mewn perthynas â chynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg a gyflwynir ar ffurf drafft o dan is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru—