Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bil y Gymraeg ac Addysg.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ATODLEN 2
(cyflwynir gan adran 38)

YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

RHAN 1
STATWS

Statws

1(1) Nid yw'r Athrofa Dysgu Cymraeg i'w hystyried yn was nac yn asiant i'r Goron nac ychwaith i'w hystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2) Nid yw eiddo'r Athrofa Dysgu Cymraeg i'w ystyried yn eiddo i'r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

RHAN 2
AELODAETH

Aelodau

2(1) Aelodau'r Athrofa Dysgu Cymraeg yw—

(a) person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd iddo;

(b) o leiaf 6 a dim mwy na 10 o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru;

(c) ei brif weithredwr (gweler paragraff 6);

(d) o leiaf 1 ond dim mwy na 2 aelod arall o blith staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg a benodir gan y prif weithredwr a'r aelodau anweithredol.

(2) Yn yr Atodlen hon—

(a) cyfeirir at y cadeirydd ac aelodau'r Athrofa Dysgu Cymraeg a benodir o dan is-baragraff (1)(b) ar y cyd fel "aelodau anweithredol";

(b) cyfeirir at y prif weithredwr ac aelodau'r Athrofa Dysgu Cymraeg a benodir o dan is-baragraff (1)(d) ar y cyd fel "aelodau gweithredol".

(3) Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o'r aelodau a benodir o dan is-baragraff (1(b) yn ddirprwy gadeirydd.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (1), drwy reoliadau, er mwyn rhoi rhif gwahanol yn lle unrhyw un neu ragor o'r rhifau a bennir; ond rhaid i nifer yr aelodau anweithredol bob amser fod yn fwy na nifer yr aelodau gweithredol.

(5) Wrth benodi aelod anweithredol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb—

(a) penodi personau sy'n meddu ar brofiad o fater, ac sydd wedi arddangos gallu mewn mater, sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau'r Athrofa Dysgu Cymraeg, a

(b) penodi personau sydd ag ystod o sgiliau a phrofiadau.