Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bil y Gymraeg ac Addysg.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anghymhwyso rhag bod yn aelod anweithredol

3Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod anweithredol os yw'r person—

(a) yn aelod o staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg,

(b) yn Aelod o'r Senedd,

(c) yn aelod o Dŷ'r Cyffredin neu o Dŷ'r Arglwyddi,

(d) yn aelod o awdurdod lleol,

(e) yn berson a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu

(f) yn ddeiliad swydd, neu'n aelod o gorff neu'n aelod o staff corff, a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Telerau aelodaeth anweithredol

4(1) Mae aelod anweithredol yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau'r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4) a pharagraff 5.

(2) Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.

(3) Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi'n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â'r ailbenodiad).

(4) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a) talu tâl, treuliau a lwfansau i'w haelodau anweithredol;

(b) talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol, neu mewn cysylltiad â hwy, a symiau ar gyfer darparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol, neu mewn cysylltiad â hwy.

Diswyddo etc. aelodau

5(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod anweithredol os ydynt wedi eu bodloni—

(a) bod y person yn anaddas i barhau'n aelod, neu

(b) nad yw'r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal aelod anweithredol dros dro o'i swydd drwy hysbysiad os yw'n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3) Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (2) yn cael effaith—

(a) am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b) os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan Weinidogion Cymru i'r person sydd wedi ei atal dros dro.

(4) Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(5) Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol os yw'r person hwnnw'n dod yn anghymwys (gweler paragraff 3).